Skip to main content
Delwedd graffigol gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cyhoeddi bod Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Medal Aur CyberFirst.

Gwobr i’r Coleg am ragoriaeth mewn addysg seiberddiogelwch

Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r sefydliadau addysg diweddaraf i ennill Gwobr Aur CyberFirst am ei addysg seiberddiogelwch ragorol.

Mae’r rhaglen CyberFirst yn cael ei rhedeg gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sy’n rhan o GCHQ. Mae’r rhaglen yn cydnabod ysgolion a cholegau sy’n gallu dangos ymrwymiad i ysbrydoli’r to diweddaraf o arbenigwyr seiberddiogelwch a phontio’r bwlch sgiliau seiber.

Wedi’i ddisgrifio fel hyrwyddwr cyfrifiadura ac addysg seiber ac wedi’i gydnabod am ei ddull rhagorol o addysgu seiberddiogelwch, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o dderbyn ei Wobr Aur.

Dywedodd Peter Scott, Arweinydd Sgiliau Digidol ac Arloesi: “Rydyn ni’n falch dros ben o fod wedi ennill y Wobr Aur mewn asesiad diweddar. Mae’n dyst i waith caled ac ymroddiad ein hymdrechion digidol yn y Coleg, ac yn adlewyrchu’n gadarnhaol ar bwysigrwydd seiberddiogelwch fel diwydiant hanfodol i’n dysgwyr anelu at weithio ynddo.”

I ennill gwobr CyberFirst, cyflwynodd Coleg Gŵyr Abertawe gais manwl gan ddangos ymrwymiad i ddyfodol y diwydiant seiber a datblygu talentau seiber. Cafodd y cais ei werthuso a’i sgorio yn erbyn meini prawf helaeth gan banel o gynrychiolwyr o’r llywodraeth, byd diwydiant a’r byd academaidd.

Cynhaliwyd un o’r digwyddiadau agoriadol, fel rhan o’r fenter aur, yr wythnos diwethaf (dydd Iau 7 Mawrth). Fe wnaeth dros 45 o fyfyrwyr Blwyddyn 9 o ysgolion cyfun Pen-yr-heol, Dylan Thomas, a Chefn Hengoed ymweld â Champws Tycoch y Coleg i gymryd rhan mewn digwyddiad profi sgiliau seiber ymarferol a hwyluswyd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Cymerodd myfyrwyr ran yn CyberFirst Investigators, menter sydd â’r nod o wella dealltwriaeth o seiberddiogelwch. Yn ogystal, fe wnaethant gymryd rhan mewn senarios chwarae rôl fel gweithwyr proffesiynol seiberddiogelwch sy’n cael eu cyflogi gan gwmni ap ffuglennol o’r enw Sirius Cyberworks. Yn yr amgylchedd efelychiadol hwn, aethant i’r afael ag achos gêm wedi’i dwyn gan ddefnyddio technegau fel gwaith fforensig digidol, OSINT, a chryptograffeg.

Wrth siarad am gydnabyddiaeth y Coleg, dywedodd Joanne Ralph o CyberFirst: “Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi dangos eu hymrwymiad a’u hymroddiad parhaus i ddarparu rhagoriaeth mewn addysg seiberddiogelwch. Mae eu taith o wobr arian i wobr aur yn dyst i’w buddsoddiad o amser, arbenigedd, ac adnoddau, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o selogion seiber. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r daith gyffrous hon ac i weld ble bydd hyn yn arwain.”