Skip to main content
Uwchgynhadledd Werdd

Myfyrwyr yn edrych ymlaen at ddyfodol gwyrddach

Cafodd myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eu cyflwyno i lawer o gyfleoedd gyrfa a gwirfoddoli cyffrous yn ddiweddar mewn Uwchgynhadledd Werdd ar Gampws Gorseinon.

Trefnwyd y digwyddiad Dyfodol Cynaliadwy gan Glwb yr Amgylchedd y Coleg dan arweiniad Cynghorydd yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Laura Wilkins.

Roedd myfyrwyr yn gallu cwrdd â gweithwyr proffesiynol o sefydliadau lleol blaenllaw, sgwrsio am faterion cynaliadwy a dysgu rhagor am lwybrau datblygu gyrfa posibl.

Hoffai’r Coleg estyn diolch i’r unigolion a’r sefydliadau niferus a gefnogodd y digwyddiad: Cyngor Abertawe; Prifysgol Abertawe; Canolfan yr Amgylchedd; City Science; RWE Renewables UK Ltd; Down to Earth Project; Marine Matters; Bwyd Abertawe; Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; Cadw Cymru’n Daclus; Gower Seal Project; Môr Hapus; The Orchard Project; How Bad Are Bananas; Clwb yr Amgylchedd CGA; Calvin Williams; Paul Jenkins; ac Un Llais Cymru.

“Mae gan bobl ifanc rôl fawr i chwarae o ran llunio dyfodol ein planed ac mae ganddyn nhw lawer o syniadau newydd y maen nhw’n awyddus i’w rhannu a’u datblygu,” meddai Laura.

“Felly, mae’n gwneud synnwyr i ddod â nhw at ei gilydd gyda sefydliadau lleol fel y gallan nhw ddysgu rhagor a chymryd rhan mewn pethau ymarferol, er enghraifft, glanhau traethau.

“Gwych oedd clywed am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran cynaliadwyedd yn y sector ynni a pha mor bwysig yw hi i edrych ar ôl ein moroedd.

“Mae popeth rydyn ni’n ei wneud yn gallu gwneud gwahaniaeth, ni waeth pa mor fach y mae’n ymddangos. Ac wrth gwrs mae dod i gyswllt â byd natur hefyd yn dda ar gyfer ein hiechyd a’n lles.

“Yn unol â’r thema ‘werdd’, roedd gan y myfyrwyr stondin dillad ail-law yn y digwyddiad lle roedden nhw’n gwerthu hen eitemau, eto gyda’r nod o gwtogi ar wastraff a lleihau’r hyn sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.”

Roedd y diswyddiad hwn yn bosibl diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag Ysbrydoli Sgiliau Cymru.