Skip to main content
A promotional image advertising free one-day online courses in Digital Marketing.

Yn cyflwyno cyfres unigryw o gyrsiau Marchnata Digidol newydd!

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch iawn o gyhoeddi ystod o gyrsiau undydd mewn marchnata digidol (wedi’u hariannu’n llawn). Mae’r cyrsiau’n addas ar gyfer unigolion 19+ sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe.

Bwriad y cyrsiau byr yw rhoi’r sgiliau hanfodol i ddysgwyr sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y gymdeithas ddigidol ddeinamig sydd ohoni. Byddant yn derbyn mewnwelediadau gweithredadwy a gwybodaeth ymarferol sy’n hollbwysig ar gyfer llwyddo yn y byd digidol.

Bellach, mae busnesau yn dibynnu fwyfwy ar blatfformau digidol i gyflawni twf a gwella presenoldeb, ac mae’r angen am farchnatwyr digidol medrus yn fwy nag erioed. Nod ein cyrsiau yw ateb y galw hwn a chynnig hyfforddiant penodol ar agweddau allweddol ar farchnata digidol.

Mae’r cyrsiau sydd ar gael yn cynnwys:

Dim ond lleoedd cyfyngedig sydd ar gael ar y cyrsiau hyn, ac mae cofrestru ar sail gyntaf i’r felin. Peidiwch â cholli’r cyfle arbennig hwn i wella eich sgiliau marchnata digidol a’ch rhagolygon gyrfa. Bwciwch eich lle heddiw!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cyrsiau, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Ebost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk 

Ffôn: 01792 284400

 

Swansea Council Logo