Skip to main content

Plastro (Diploma Lefel 2)

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 2
Diploma
Llys Jiwbilî
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriedir y cwrs dwy flynedd hwn i’r rhai sy’n gyflogedig yn y diwydiant adeiladu fel plastrwr. Mae’r cwrs hwn yn rhoi modd i chi ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen yn y maes arbenigol hwn. Byddwch yn dysgu sut i:

  • Rhoi defnyddiau plastr ar fannau mewnol
  • Gosod leinin sych a byrddau plastr mewn mannau mewnol
  • Gosod sgridiau tywod a sment
  • Rhoi defnyddiau plastr ar gefndiroedd allanol

Sgiliau Hanfodol:

  • Cymhwyso Rhif Lefel 1
  • Cyfathrebu Lefel 1

Ychwanegwyd Mehefin 2021

Gwybodaeth allweddol

Cyfuniad o raddau pasio TGAU, profiad gwaith blaenorol yn y diwydiant, cyflawniad ar gwrs dilyniant perthnasol a chanlyniadau asesiad ar-lein – caiff hyn ei drafod yn y cyfweliad.

Byddai gradd C mewn mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol.

Gallwch symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 mewn Plastro neu gallwch arallgyfeirio ac ennill achrediad a gymeradwyir gan y diwydiant trwy ein cyrsiau adeiladu eraill.

Bydd dysgwyr yn mynychu hyfforddiant un diwrnod yr wythnos i astudio’r cwrs Diploma Lefel 2 ar gyfer yr elfennau ymarferol a theori. Mae hyn yn cynnwys profion dewis lluosog ac ymarferol ar ddiwedd yr uned. Tra byddwch yn y gwaith, bydd angen i chi gasglu tystiolaeth o gymhwysedd ar gyfer eich cymhwyster NVQ. Asesir yr NVQ trwy gasglu tystiolaeth ffotograffig, tystebau ac ymweliadau â’r safle gan eich tiwtor/aseswr.

Bydd prentisiaid yn cael mentor hyfforddi, a fydd yn ymweld â nhw yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn hapus gyda’u cynnydd a’u bod ar y trywydd iawn i gyflawni.

Bydd yn cymryd rhwng 12 a 24 mis i gwblhau’r fframwaith prentisiaeth yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.