Gallai myfyrwyr ar y cwrs hwn fod yn gymwys i gael cyllid trwy Gyfrifon Dysgu Personol (CDP) Llywodraeth Cymru. Mae CDP yn rhoi modd i chi gael mynediad at hyfforddiant rhad ac am ddim ar gyrsiau dethol, ar yr amod eich bod yn diwallu’r meini prawf cymhwystra. Edrychwch ar ein tudalen i weld a allwch wneud cais am CDP.
Adeiladu Olwynion
Trosolwg
Bwriedir y cwrs hwn i selogion beicio sydd eisoes â rhywfaint o wybodaeth o gynnal a chadw beiciau.
Bydd y cwrs yn canolbwyntio’n benodol ar yr elfennau adeiladu olwynion o gynnal a chadw beiciau.
- Cyfrifo hyd adenydd olwynion (sbôcs)
- Rhoi adenydd (sbôcs) ar olwyn
- Cywiro a thyniannu olwynion
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Bydd angen rhywfaint o wybodaeth sylfaenol o gywiro olwynion cyn cofrestru ar y cwrs hwn.
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd y cwrs yn cael ei addysgu yn ein cyfleuster arbenigol newydd.
Mae pob cwrs yn para un diwrnod neu ddwy noson.
Cyfleoedd Dilyniant
Gallech chi symud ymlaen i gymhwyster Cynnal a Chadw Beiciau Proffesiynol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir beic ac offer yn ystod y cwrs.