Skip to main content

BA (Anrh) Addysg, Dysgu a Datblygiad (Ychwanegol)

Rhan-amser, HE
Tycoch
2 flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Hyd: Dwy flynedd Nod y cwrs yw datblygu dealltwriaeth fanwl o anghenion datblygu a dysgu plant a phobl ifanc. Bydd yn eich annog i werthuso’n feirniadol effaith dysgu, datblygu a’r cwricwlwm yn ymarferol ac archwilio hon o fewn eich cyd-destun addysgol eich hun. Bydd yn eich annog i gynhyrchu dadleuon rhesymegol a dod i gasgliadau annibynnol gan ddefnyddio dadansoddiad damcaniaethol, gweithgarwch ymarferol ac ymchwil bersonol ar lefel gradd. Bydd yn rhoi ymwybyddiaeth academaidd a dealltwriaeth o blant a phobl ifanc o amrywiaeth o bersbectifau gan gynnwys athroniaethau a chredoau. Bydd yn datblygu’ch dealltwriaeth o sgiliau a phriodoleddau gan gynnwys arweinyddiaeth/rheolaeth, cyfathrebu a datrys problemau. Caiff ei addysgu trwy ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, dysgu seiliedig ar waith, ymweliadau allanol, astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol. Mae hwn yn gwrs rhan-amser sy’n rhedeg dros ddwy flynedd ac felly mae’n ddelfrydol i’r rhai mewn cyflogaeth neu sy’n methu ag ymrwymo i astudio amser llawn. Byddwch yn ymgymryd â chwe awr o astudio yr wythnos dros ddwy noson 6.00pm-9.00pm.

Diweddarwyd Rhagfyr 2021

Gwybodaeth allweddol

Yn unol â gofynion mynediad Prifysgol De Cymru: Gradd Sylfaen Lefel 5 (neu’r cyfwerth) mewn maes pwnc perthnasol. Bydd myfyrwyr yn gyflogedig neu’n gweithio’n wirfoddol mewn lleoliad perthnasol am o leiaf 12 awr yr wythnos.

Modiwlau EA3D005 Prosiect Annibynnol - 40 credyd EA3S007 Arweinyddiaeth mewn Addysg, Dysgu a Datblygiad - 20 credyd EA3S008 Cydweithredu Amlasiantaeth Proffesiynol - 20 credyd EA3S009 Dysgu ac Addysgu - 20 credyd EA3S010 Lles a Llais y Dysgwr - 20 credyd Byddwch yn ymgymryd â 60 credyd ym mhob blwyddyn astudio. Asesu Caiff amrywiaeth o ddulliau asesu eu defnyddio gan gynnwys aseiniadau, cyflwyniadau a phrosiectau.

TAR/AHO MA Addysg (Arloesi mewn Dysgu ac Addysgu) Prifysgol De Cymru MA Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Addysg) Prifysgol De Cymru

Achrediad Dysgu Blaenorol Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn bethnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://celt.southwales.ac.uk/recognition-prior-learning/ Y ffioedd cyfredol yw £2,160 y flwyddyn. I gael gwybodaeth am gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk Efallai y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn h.y. • Teithio i’r Coleg neu’r lleoliad ac yn ôl • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn cof) • Argraffu a rhwymo • Gynau ar gyfer seremonïau graddio • £38 am wiriad DBS ar gyfer unrhyw leoliad sydd ei angen fel rhan o’r cwrs Bydd rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS dilys *Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.