Skip to main content

Cyflwyniad i wneud ffilmiau

Rhan-amser
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Wythnos 1: Yr hanfodion

  • Cyflwyniad i’r camera, trybeddau, cardiau cof, lawrlwytho fideo, golygu meddalwedd

Wythnos 2: Gwneud montage ffilm

  • Gwneud ffilm 10 eiliad: 10 saethiad, 10 math gwahanol o saethiad camera (EST, LS, MS, CU, ac ati), lawrlwytho, golygu mewn dilyniant

Wythnos 3: Creu bwrdd stori a gwneud ffilm naratif (fud)

  • Defnyddio bwrdd stori ar gyfer cyn-gynhyrchu saethiad ffilm. Bydd hyn yn arwain at…
  • Ffilm naratif 10 eiliad. Strwythur ffilm Todorov – cydbwysedd, tarfiad, cydnabod tarfiad, ymdrech i gywiro’r tarfiad, cydbwysedd newydd – o leiaf chwe saethiad, o leiaf chwe math o saethiad. Lawrlwytho a golygu

Wythnos 4: Gwneud ffilm naratif gyda sain – rhan un

  • Ffilm naratif 10 eiliad gyda sain gynefin (lleisiau actorion, sain ar-sgrin) a sain anghynefin (trac sain/troslais) – fel Wythnos 3: chwe saethiad, strwythur Todorov, chwe math o saethiad

Wythnosau 5 a 6: Creu bwrdd stori a gwneud ffilm naratif gyda sain – rhan dau

  • Creu bwrdd stori ar gyfer ffilm 20 eiliad, gan gynnwys lle mae angen trac/sain
  • Ffilm naratif 20 eiliad gyda sain. O leiaf 12 saethiad, chwe math o saethiad fesul ffilm.

Rhaid i’r ffilm gynnwys Ôl-Fflach (o leiaf dair eiliad) a chael ei harddullio yn wahanol i weddill y ffilm trwy liw / golygu / effeithiau camera a sain

Wythnos 6: Sgrinio ffilmiau i’r grŵp

Wythnosau 7 - 10: Gwneud ffilmiau byrion – y ddisgyblaeth

Ymestyn y ffilm 20 eiliad o Wythnosau 5/6 i ffilm un funud ac iddi dair act.