Skip to main content

Dechrau arni yn y Bar - Cyflwyniad i’r Gwasanaeth Gwin (Tymor 3)

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Tycoch
10 weeks
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i chi weithio yn y diwydiant gwasanaeth bwyd/bwytai. Byddwch yn cwblhau dwy uned fel rhan o’r cwrs hwn:

  • Egwyddorion Paratoi a Gweini Gwinoedd (gwybod sut i baratoi mannau gwasanaeth, offer a stoc ar gyfer y gwasanaeth gwin / gwybod sut i hyrwyddo a gweini gwin i ateb anghenion perthnasol deddfwriaeth a chwsmeriaid / gwybod sut i gyflwyno a gweini gwin i ateb anghenion perthnasol deddfwriaeth a chwsmeriaid).
  • Egwyddorion Gwasanaeth Cwsmeriaid mewn Lletygarwch, Hamdden, Teithio a Thwristiaeth (deall y pwysigrwydd i’r sefydliad o ran darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid yn y diwydiannau lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth / deall rôl yr unigolyn o ran darparu gwasanaeth cwsmeriaid yn y diwydiannau lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth / deall pwysigrwydd anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid yn y diwydiannau lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth).

Ychwanegwyd Awst 2018

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod gennych ddiddordeb brwd i weithio yn y diwydiant bwytai. Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen i chi wella’ch sgiliau. Bydd rhaid i chi ddod i gyfweliad anffurfiol/sesiwn arweiniad, cyn cofrestru.

Addysgir ac asesir y cwrs ar Gampws Tycoch ym mwyty hyfforddi’r Vanilla Pod. Bydd dulliau asesu’n cynnwys arsylwadau ymarferol, chwarae rôl, trafodaethau, profion byr a gwersi theori. Drwy gydol y cwrs byddwch yn cwblhau portffolio o dystiolaeth, a gaiff ei gyflwyno i’r gwirwyr allanol i’w safoni.

Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn neu gallech ddewis cwblhau cwrs byr arall, fel dilyniant naturiol.

Er mwyn cynnal ymddangosiad proffesiynol, bydd yn ofynnol i chi wisgo sgert/trwser du, ynghyd â blows/crys trwsiadus. Bydd yn ofynnol i chi wisgo esgidiau du, caeedig hefyd. Rhaid gwisgo gwallt hir i fyny. Ni chaniateir gemwaith gweladwy na thyllau corff. Dim farnais ewinedd/ewinedd gel. Ni chaniateir llawer o golur.