Skip to main content

Dechrau Arni yn y Bwyty – Gwasanaeth Bwrdd (Tymor 1)

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Tycoch
10 weeks
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i chi weithio yn y diwydiant gwasanaeth bwyd/bwytai. Byddwch yn cwblhau dwy uned fel rhan o’r cwrs hwn:

  • Egwyddorion Paratoi a Chlirio Mannau ar gyfer Gwasanaeth Bwyd (gwybod sut i baratoi mannau gwasanaeth ac offer ar gyfer gwasanaeth bwyd/gwybod sut i baratoi mannau cwsmeriaid a mannau bwyta ar gyfer gwasanaeth bwyd/gwybod sut i glirio mannau bwyta a mannau gwasanaeth ar ôl gwasanaeth bwyd).
  • Gwasanaeth Bwyd wrth y Bwrdd (gwybod sut i gyfarch cwsmeriaid a chymryd archebion/gwybod sut i weini cwsmeriaid mewn man bwyta).

Ychwanegwyd Awst 2018

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod gennych ddiddordeb brwd i weithio yn y diwydiant bwytai. Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen i chi wella’ch sgiliau. Bydd rhaid dod am gyfweliad anffurfiol/sesiwn arweiniad cyn cofrestru.

Addysgir ac asesir y cwrs ar Gampws Tycoch, ym mwyty hyfforddi’r Vanilla Pod. Bydd dulliau asesu’n cynnwys arsylwadau ac asesiadau ymarferol, chwarae rôl, trafodaethau, profion byr a gwersi theori. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cwblhau portffolio o dystiolaeth, a gaiff ei gyflwyno i’r gwirwyr allanol i’w gymedroli.

Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn neu ddewis cwblhau cwrs byr arall, fel dilyniant naturiol.

I gynnal ymddangosiad proffesiynol, bydd gofyn i chi wisgo trwser du/sgert ddu, a chrys/blows trwsiadus. Yn ogystal, bydd gofyn i chi wisgo esgidiau du, caeedig. Rhaid clymu gwallt hir yn ôl. Ni chaniateir gemwaith na thyllau gweladwy. Dim farnais ewinedd/ewinedd gel. Caniateir ychydig iawn o golur.