Skip to main content

Dechrau arni yn y Gegin – Seigiau Dofednod Sylfaenol (Tymor 3)

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Tycoch
10 weeks
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd y cwrs yn rhoi cyflwyniad i chi weithio yn y diwydiant arlwyo/coginio. Byddwch yn cwblhau un uned fel rhan o’r cwrs hwn:

  • Cynhyrchu Seigiau Dofednod Sylfaenol (gallu cynhyrchu seigiau dofednod sylfaenol / deall sut i gynhyrchu seigiau dofednod sylfaenol).

Ychwanegwyd Awst 2018

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod gennych ddiddordeb brwd i weithio yn y diwydiant arlwyo/coginio. Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen i chi wella’ch sgiliau. Bydd rhaid i chi ddod i gyfweliad anffurfiol/sesiwn arweiniad, cyn cofrestru.

Addysgir ac asesir y cwrs ar Gampws Tycoch yn ein ceginau hyfforddi arbenigol. Bydd dulliau asesu’n cynnwys arsylwadau ymarferol, chwarae rôl, trafodaethau, profion byr a gwersi theori. Drwy gydol y cwrs byddwch yn cwblhau portffolio o dystiolaeth, a gaiff ei gyflwyno i’r gwirwyr allanol i’w safoni.

Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn neu gallech ddewis cwblhau cwrs byr arall, fel dilyniant naturiol.

Bydd yn ofynnol i chi wisgo siaced pen-cogydd, trwser, tei, het, ffedog ac esgidiau blaen dur (cyfanswm tua £70). Efallai y byddwch yn gallu cael cyllid tuag at gostau gwisg. Rhaid gorchuddio gwallt hir mewn rhwyd wallt. Ni chaniateir gemwaith gweladwy na thyllau corff. Dim farnais ewinedd/ewinedd gel. Ni chaniateir llawer o golur. Bydd gofyn i chi olchi llestri fel rhan o’r cwrs. Efallai y byddwch am brynu set o gyllyll pen-cogydd. Gallwn ni awgrymu cyflenwr. Bob wythnos, byddwch yn dysgu sut i baratoi a choginio rysáit glasurol. Byddwn yn darparu cynhwysion. Byddwch yn gallu prynu’r eitemau a wnewch, am ffi fach, i dalu costau cynhwysion.