Skip to main content

Dechrau Arni yn y Popty - Teisennau a Sgons (Tymor 2)

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Tycoch
10 weeks
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i chi weithio yn y diwydiant arlwyo/pobi. Byddwch yn cwblhau un uned fel rhan o’r cwrs hwn:

  • Cynhyrchu Teisennau, Sbyngau a Sgons Sylfaenol (gallu cynhyrchu teisennau, sbyngau a sgons sylfaenol / deall sut i gynhyrchu teisennau, sbyngau a sgons sylfaenol).

Ychwanegwyd Awst 2018

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod gennych ddiddordeb brwd i weithio yn y diwydiant arlwyo/pobi. Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen i chi wella’ch sgiliau. 

Bydd rhaid dod am gyfweliad anffurfiol/sesiwn arweiniad cyn cofrestru.

Addysgir ac asesir y cwrs ar Gampws Tycoch, yn ein ceginau hyfforddi arbenigol. Bydd dulliau asesu’n cynnwys arsylwadau ac asesiadau ymarferol, chwarae rôl, trafodaethau, profion byr a gwersi theori.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cwblhau portffolio o dystiolaeth, a gaiff ei gyflwyno i’r gwirwyr allanol i’w gymedroli.

Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn neu ddewis cwblhau cwrs byr arall, fel dilyniant naturiol.

Bydd gofyn i chi wisgo siaced pen-cogydd, trwser, tei, het, ffedog ac esgidiau blaen dur (cyfanswm o £70). Mae’n bosibl y bydd cyllid ar gael i helpu gyda chostau gwisg.

Rhaid rhoi gwallt mewn rhwyd wallt. Ni chaniateir gemwaith na thyllau gweladwy. Dim farnais ewinedd/ewinedd gel. Caniateir ychydig iawn o golur. Bydd gofyn i chi olchi’r llestri, fel rhan o’r cwrs hwn.

Efallai y byddwch am brynu set o gyllyll pen-cogydd. Gallwn ni awgrymu cyflenwad.

Bob wythnos, byddwch yn dysgu sut i baratoi a choginio rysáit glasurol. Byddwn ni’n darparu’r cynhwysion. Byddwch yn gallu prynu’r eitemau a wnewch, am ffi fach, i dalu costau cynhwysion.