Skip to main content

Gwneud Ffilmiau o’r Awyr (CDP)

Rhan-amser
Distance Learning

Arolwg

Mae dronau yn cynnig cyfle i wneuthurwyr ffilmiau gynhyrchu saethiadau syfrdanol a oedd, tan ychydig flynyddoedd yn ôl, yn faes i’r cwmnïau cynhyrchu ffilmiau mawr. Erbyn hyn, fideo yw un o’r nodweddion sy’n cael ei defnyddio’n fwyaf eang ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae cynulleidfaoedd wedi dysgu’n gyflym i wahaniaethu rhwng ‘dim ond saethiad drôn’ a sinematograffi awyr syfrdanol.

Bydd y cwrs hwn yn darparu fframwaith i beilotiaid dronau a hoffai fod yn sinematograffwyr awyr, gan roi cyfle i ddatblygu sgiliau golygu fideo p’un a ydych chi’n newydd i’r maes hwn neu yn beilot profiadol.

Os ydych chi am ddefnyddio’ch drôn i fod yn greadigol, efallai y bydd y cwrs hwn yn eich gwneud yn wahanol i bawb arall, p’un a ydych chi am wneud arian gyda’ch drôn neu fynd â’ch hobi i’r lefel nesaf.

Mae prynu drôn yn un peth, ond os ydych chi am wneud y mwyaf o’r profiad, bydd angen rhywfaint o brofiad peilota arnoch a bydd angen i chi ddechrau meddwl fel gwneuthurwr ffilmiau. Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd disgwyl i chi arddangos cyfuniad o sgiliau hedfan gyda dealltwriaeth o hanfodion gwneud ffilmiau.

08/07/22

Gwybodaeth allweddol

Dylai ymgeiswyr berchen ar ddrôn sydd â chamera fideo a’i weithredu.

Byddwch yn darganfod sut i haenu eich cyfansoddiadau drwy roi dyfnder a chwilfrydedd i’ch delweddau, a symud llygad y gwyliwr drwy’r ffrâm. Byddwch yn dysgu sut i wella’r naratif, gweithio gyda golau a datblygu sgiliau cyfansoddiadol.

Rhan 1 – Ystyriaethau Ffilmio

  • Golau: Dadansoddi’r golau i ddewis y cyfeiriad hedfan gorau neu’r adeg orau o’r dydd ar gyfer hedfan
  • Fframio: Nodi gwrthrychau dieisiau yn y saethiad a’u lleoli fel nad ydynt yn ymddangos yn y ffrâm
  • Cyfansoddiad: Penderfynu ar y cyfansoddiad mwyaf sinematig ar gyfer y pwnc rydych chi’n ceisio ei ffilmio
  • Lleoliad: Nodi lleoliadau gwych ar gyfer eich saethiadau drôn cyn gadael y tŷ
  • Creu Dyfnder: Adeiladu eich golygfa drwy nodi ffyrdd o greu dyfnder yn eich cyfansoddiad
  • Mudiant Fideo: Dewis y mudiant camera priodol sy’n troi saethiad sylfaenol yn naratif sy’n adrodd stori
  • Adrodd Stori: Defnyddio’r ddyfais o greu pryder i ddenu diddordeb eich cynulleidfa.

Rhan 2 – Ôl-gynhyrchu

  • Creu Prosiect: Paratoi prosiect gan ddefnyddio Da Vinci Resolve
  • Mewnforio Fideo: lluniau llonydd, sain a fideo
  • Golygu Sylfaenol: trimio, teitlau a newidiadau
  • Defnyddio’r Offeryn Archwilio: graddio, symud a chylchdroi clipiau
  • Allforio Fideo: Cynhyrchu eich fideo ar gyfer platfformau gwahanol, YouTube, Facebook ac Instagram