Skip to main content

Gwydnwch ac Ymwybyddiaeth Ofalgar

Rhan-amser
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd dysgwyr yn deall ystyr gwydnwch a pham mae sgiliau gwydnwch yn bwysig i iechyd a lles. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn golygu bod yn bresennol yn llawn ym mhob eiliad a gellir ei harneisio a’i datblygu ar gyfer straen bywyd a phryder. Bydd y cwrs hwn yn rhoi modd i chi ddatblygu dealltwriaeth o egwyddorion ymwybyddiaeth ofalgar a sut i gymhwyso ac integreiddio ymwybyddiaeth ofalgar i’ch bywyd bob dydd.

Ychwanegwyd Medi 2018

Gwybodaeth allweddol

Mae’r cwrs hwn yn agored i bawb, o ddechreuwyr llwyr i’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol o ymwybyddiaeth ofalgar ac sy’n ystyried datblygu eu sgiliau ymhellach. Nid oes unrhyw ofynion rhagofynnol. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn byddwch yn gallu defnyddio egwyddorion gwydnwch ac ymwybyddiaeth ofalgar yn eich bywyd bob dydd.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu ymddygiad heriol mewn amgylchedd dysgu.