Skip to main content

Hyfforddiant AWS CloudFormation

Rhan-amser
Online
One day

Arolwg

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer Gweithwyr TG Proffesiynol sydd eisiau dysgu am Dechnolegau AWS.

Mae’r cwrs hwn yn dysgu cynrychiolwyr am CloudFormation. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu cynrychiolwyr i sefydlu eu hadnoddau AWS fel y gallant dreulio llai o amser yn rheoli’r adnoddau hynny a mwy o amser yn canolbwyntio ar eu cymhwysiad sy’n rhedeg ar AWS. Ar y cwrs hwn, bydd cynrychiolwyr yn dysgu am gysyniadau AWS CloudFormation a sut mae AWS CloudFormation yn gweithio.

Yn ystod y cwrs hwn, bydd cynrychiolwyr yn dod i ddeall sut i gofrestru ar gyfer Cyfrif AWS, rheoli mynediad, cofnodi galwadau API CloudFormation, cyfyngiadau AWS CloudFormation a sefydlu dyfeisiau VPC ar gyfer AWS CloudFormation. Mae’r cwrs hwn hefyd yn esbonio darpariaeth barhaus gyda chod PipeLine.

Ar y cwrs undydd hwn, bydd cynrychiolwyr yn dysgu sut i weithio gyda stac a thempledi. Byddant hefyd yn dysgu am gysyniadau StackSet, rhoi caniatâd i weithredu StackSet, creu, diweddaru a dileu StackSet. Yn ogystal, bydd cynrychiolwyr yn dysgu sut i ffurfweddu giât cyfrif targed yn AWS CloudFormation StackSets. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant hwn, bydd cynrychiolwyr yn gallu datrys problemau Amazon CloudFormation.

01/02/23

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Addysgir y cwrs dros un diwrnod.

Addysgir y cwrs ar-lein, dan arweiniad hyfforddwr mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rithwir.

Nid oes arholiad ar y cwrs hwn. Cewch dystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs.

Mae cyllid CDP ar gael i dalu cost y cwrs. I wybod rhagor ac i weld a ydych yn gymwys, ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/cyllido-eich-astudiaethau/cyfrifon-dysgu-personol