Gallai myfyrwyr ar y cwrs hwn fod yn gymwys i gael cyllid trwy Gyfrifon Dysgu Personol (CDP) Llywodraeth Cymru. Mae CDP yn rhoi modd i chi gael mynediad at hyfforddiant rhad ac am ddim ar gyrsiau dethol, ar yr amod eich bod yn diwallu’r meini prawf cymhwystra. Edrychwch ar ein tudalen i weld a allwch wneud cais am CDP.
Hyfforddiant Cyfrifiadura Cwmwl
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer:
- Datblygwyr a phenseiri
- Gweithwyr proffesiynol TG
Mae cyfrifiadura cwmwl yn cyfeirio at ddarparu gwasanaethau cyfrifiadura ar-alw o gymwysiadau i ganolfannau data dros y rhyngrwyd. Mae’n ffordd fwy effeithlon o ddarparu adnoddau cyfrifiadurol ac mae’n cynnig annibyniaeth platfform, gan nad oes angen gosod y feddalwedd ar gyfrifiadur personol i gael mynediad ati. Mae gwasanaethau cyfrifiadura cwmwl yn seiliedig ar danysgrifiadau, h.y. mae defnyddwyr yn talu ffi fisol am yr adnoddau yn lle prynu trwyddedau.
Nod yr Hyfforddiant Cyfrifiadura Cwmwl hwn yw rhoi gwybodaeth drylwyr o Gyfrifiadura Cwmwl i gynrychiolwyr. Bydd y cynrychiolwyr yn dysgu’r model saith cam o fudo data i gwmwl a byddant yn ennill gwybodaeth am dri model cyfrifiadura cwmwl - SaaS, Paas ac Iaas. Bydd cynrychiolwyr yn gyfarwydd ag Aneka a CometCloud ac yn deall rheolaeth SLA mewn Cyfrifiadura Cwmwl.
01/02/23
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn. Fodd bynnag, byddai gwybodaeth sylfaenol o gysyniadau cronfeydd data a rhyngweithio yn eich helpu i ddeall cysyniadau Cyfrifiadura Cwmwl.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs dros ddau ddiwrnod.
Addysgir y cwrs ar-lein, dan arweiniad hyfforddwr mewn amgylchedd ystafell ddosbarth rithwir.
Nid oes arholiad ar y cwrs hwn. Cewch dystysgrif presenoldeb ar ôl cwblhau’r cwrs.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae cyllid CDP ar gael i dalu cost y cwrs. I wybod rhagor ac i weld a ydych yn gymwys, ewch i https://gyrfacymru.llyw.cymru/cyrsiau-a-hyfforddiant/cyllido-eich-astudiaethau/cyfrifon-dysgu-personol
Detailed course information
Where and when can I study?
Start Date: Thu 23 Nov 2023 | Course Code: ZA1895 DLK | Cost: £0