Skip to main content

Cyflwyniad i Bodledu

Rhan-amser
Arall

Arolwg

Mae podledu yn gyfrwng sy’n tyfu o hyd y gellir ei ddefnyddio i addysgu a hysbysu’ch cynulleidfa mewn ffordd ddifyr. Bydd y cwrs hwn yn addysgu’r hanfodion fel y gallwch greu’ch podlediadau eich hun.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu’r technegau podledu canlynol:

  • Cyflwyniad i bodledu
  • Cynllunio strwythur eich podlediad
  • Arddulliau cyflwyno
  • Technegau recordio sain
  • Meddalwedd a thechnegau golygu gan ddefnyddio Audacity
  • Aseiniad cynhyrchu podlediad
  • Cynnal podlediad

Ychwanegwyd Mehefin 2021

Gwybodaeth allweddol

Cwrs i ddechreuwyr yw hwn ac felly nid oes angen profiad blaenorol, ond byddai diddordeb mewn radio / podledu a phrofiad o feddalwedd creadigol yn fanteisiol.

Bydd y cwrs 10 wythnos hwn yn cael ei addysgu trwy ddosbarth ar-lein 1.5 awr ar Microsoft Teams, gyda sesiwn cymorth ychwanegol ar-lein am awr. Asesir y cwrs trwy weithgareddau seiliedig ar dasgau a fydd yn arwain at greu aseiniad podlediad terfynol.

Bydd y sgiliau a’r technegau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn yn eich helpu i symud ymlaen i waith cynhyrchu radio a phodlediadau.

Mae mynediad i ddyfais recordio sain megis ffôn symudol neu feicroffon cyfrifiadur yn hanfodol.