Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i becynnau cyfrifiadurol SAGE gan ddefnyddio meddalwedd Sage Line 50 Financial Controller, un o’r pecynnau meddalwedd Cyfrifeg sy’n tyfu fwyaf yn y DU.
Manylion Astudio
Gwaith cyfrifiadurol ymarferol sy’n cyfuno gwaith theori a defnyddio Cyfrifeg gyfrifiadurol ymarferol Sage Line 50 gan gynnwys:
- Postio i gyfrifon
- Cynnal cyfriflyfrau
- Prosesu dogfennau gwerthiant a phryniant
- Ffurflenni TAW
- Cyfrifon elw a cholled
- Mantolenni prawf
- Mantolenni
- Cysoniad banc
- Trafodion arian mân
- Cwblhau ac argraffu anfonebau cwmni ac ati
05/07/22
Gofynion Mynediad
Profiad o gadw cyfrifon â llaw yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol. Disgwylir i bob myfyriwr feddu ar sgiliau cyfrifiadurol ar lefel sylfaenol. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs trwy ddarlithoedd ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol. Mae asesiad byr terfynol yn ogystal â phortffolio o dystiolaeth wedi’i ddarparu gan y myfyriwr.
Cyfleoedd Dilyniant
Cyfle i symud ymlaen i gyrsiau Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu mewn Cyfrifeg. Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.