Skip to main content

Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Rhan-amser
Lefel 4
C&G
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar wybodaeth ac mae ar gyfer staff profiadol a hoffai ddatblygu eu potensial i arwain er mwyn symud ymlaen i rôl arwain a rheoli yn y sector Gofal Plant. Gan ei fod yn seiliedig ar wybodaeth, gall dysgwyr gwblhau’r cymhwyster hwn cyn cael rôl arwain.

Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer:

dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymwysterau canlynol neu’r cyfwerth cydnabyddedig yn llwyddiannus:

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2: Ymarfer
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: Ymarfer
Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3: Ymarfer a Theori
cymhwyster etifeddiaeth a restrir yn y ddogfen Gofal Cymdeithasol Cymru - Fframwaith Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Rheoleiddiedig yng Nghymru

Ychwanegwyd Gorffennaf 2020

Gwybodaeth allweddol

Mae cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cynnwys y tair uned ganlynol:

  • Arwain ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn
  • Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli
  • Deall sut i arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol

Er mwyn cyflawni cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 60 credyd. Mae pob uned yn y cymhwyster yn orfodol.

Asesir cymhwyster Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant trwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.

Ar gyfer yr asesiad allanol rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • Prosiect sy’n cynnwys cyfres o dasgau seiliedig ar newid arfaethedig i ymarfer

Ar gyfer yr asesiad mewnol rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • Cyfres o dasgau, sy’n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig.

Mae’r cwrs Lefel 4 sy’n paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn darparu’r wybodaeth i helpu rheolwyr i gymryd eu cam cyntaf i rôl arweinyddiaeth, ac i symud ymlaen i:

  • Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer (ar yr amod bod y dysgwr mewn rôl addas)
  • Ymarfer Proffesiynol Lefel 4 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant gydag Arbenigedd