Sgiliau Rhifedd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Trosolwg
Mae angen y sgiliau cywir ar bawb sy’n gweithio neu’n ystyried gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae sgiliau rhifedd da yn hanfodol i bob gweithiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n cyflawni rolau ar unrhyw lefel.
Mae rhifau a’u defnydd yn rhan annatod o unrhyw rôl Iechyd a Gofal Cymdeithasol e.e. amseru ymweliadau, cyfrifo siartiau cydbwysedd hylif, hawlio milltiroedd.
Gall tystiolaeth o sgiliau rhifedd da fod o fudd i’r rhai sy'n ceisio cyflogaeth a gall helpu i osgoi diweithdra yn y dyfodol.
Diweddarwyd Rhagfyr 2018