Skip to main content

Therapi Tylino Chwaraeon Lefel 4 - Tystysgrif Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel 4
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
34 wythnos
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Mae VTCT Tystysgrif Lefel 4 mewn Therapi Tylino Chwaraeon yn gymhwyster galwedigaethol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel ymarferydd tylino chwaraeon sy’n gweithio gyda chleientiaid sydd wedi’u hanafu. 

Yn benodol, bydd y cymhwyster hwn yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg i weithio ar anafiadau ôl-aciwt a chyflyrau sy’n bodoli eisoes, gan ymdrin ag anafiadau cyhyrysgerbydol a phara-tendon. 

Byddwch yn datblygu’r sgiliau i gynnal asesiadau goddrychol a gwrthrychol, a fydd yn cwmpasu ystod o symudiadau gweithredol, goddefol a gwrthsafol, dadansoddiad ystumiol manwl, profion gweithredol a phrofion arbennig. Byddwch hefyd yn datblygu’r sgiliau i weithio’n ddiogel ac yn effeithiol ar anafiadau i’r cyhyrau a phara-tendon gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau meinwe feddal a byddwch yn gallu rhoi cyngor ar ddulliau triniaeth i helpu i atgyweirio meinwe feddal. 

  • Cynnal Asesiad Goddrychol ac Wrthrychol 
  • Darparu Technegau Tylino Chwaraeon i Atal a Rheoli Anafiadau 
  • Dulliau Triniaeth i Helpu i Atgyweirio Meinwe Feddal.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.

Gwybodaeth allweddol

  • Byddwn yn derbyn cymhwyster Lefel 3 mewn therapi tylino chwaraeon neu’r cyfwerth 
  • Cyfweliad 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau, astudiaethau achos ac aseiniadau ysgrifenedig. Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol. 

Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth fel ymarferydd tylino chwaraeon sy’n gweithio gyda chleientiaid wedi’u hanafu. Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn yn gallu cael cyflogaeth ac yswiriant i weithio fel ymarferydd tylino chwaraeon. 

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn bodoli mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys: 

  • Clybiau iechyd preifat a chanolfannau hamdden 
  • Canolfannau a chlybiau chwaraeon 
  • Gweithio’n annibynnol.

Rhaid i ddysgwyr brynu crys polo.   

Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.