Skip to main content

Tylino ar y Safle / ar Sedd

Rhan-amser
Amhriodol
FHT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Two days
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Arolwg

Mae Tylino Ar y Safle yn dylino deinamig sy’n cael ei berfformio ar gadair bwrpasol. Gellir perfformio’r tylino gyda’r cleient yn gwisgo’i holl ddillad neu gan ddefnyddio olewau. Mae’n berffaith ar gyfer gwaith corfforaethol neu fenywod beichiog. Mae’r tylino amlbwrpas ac effeithiol hwn yn gallu agor llawer o gyfleoedd ar gyfer yr ymarferydd.

Diweddarwyd Mehefin 2015

Gwybodaeth allweddol

Mae Tylino Swedaidd Lefel 3 yn hanfodol. Rhaid bod gennych agwedd gadarnhaol at y therapi a’r gallu i weithio fel aelod o dîm proffesiynol. Mae ymddangosiad personol wedi’i gyflwyno’n dda yn hanfodol. Dylai myfyrwyr fod yn 18 oed a hŷn.

Byddwch yn astudio: • Hanes a gwreiddiau tylino ar y safle • Dewis lleoliad addas ar gyfer y cadeiriau tylino • Technegau tylino ar y safle • Manteision tylino ar y safle • Gweithio yn y maes corfforaethol • Gwrthrybuddion • Cyngor ôl-ofal • Trefn reolaidd 30 munud Byddwch yn dod i’r Coleg am ddau ddiwrnod yn olynol. Ar ddiwedd diwrnod dau, bydd yn ofynnol i chi sefyll prawf ysgrifenedig byr ac asesiad ymarferol i sicrhau eich bod yn gymwys.

Bydd myfyrwyr yn gallu gweithio yn y maes corfforaethol.