Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs triniaethau laser a golau pwls dwys yn rhaglen ran-amser sy’n darparu hyfforddiant ac asesiad yng ngwaith theori ac ymarfer laser a golau pwls dwys.
Diweddarwyd Gorffennaf 2017
Gofynion Mynediad
Mae’r cwrs triniaethau laser a golau pwls dwys yn addas i fyfyrwyr sydd wedi astudio anatomeg a ffisioleg, fel rhan o’r cwrs Therapi Harddwch Lefel 3, neu gymhwyster nyrsio neu brofiad blaenorol priodol. Mae ymddangosiad personol wedi’i gyflwyno’n dda yn hanfodol. Dylai myfyrwyr fod yn 18 oed neu hŷn.
Dull Addysgu’r Cwrs
Ar y cwrs triniaethau laser a golau pwls dwys byddwch yn astudio:
- Gwybodaeth sylfaenol, gweithdrefnau ar gyfer mannau wedi’u rheoli, cyfarpar diogelu personol
- Gofynion ymgynghori, asesiad Fitzpatrick
- Atgyfeiriad meddyg teulu, canllawiau cyffuriau
- Anatomeg a ffisioleg y croen a’r gwallt, systemau endocrin a chylchrediad gwaed
- Rheolau lleol, protocolau triniaeth
- Ffiseg laser/golau pwls dwys, dosbarthiad laser
- Triniaethau ymarferol, asesiadau ac astudiaethau achos
Mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o asesiadau ymarferol ynghyd ag aseiniadau ysgrifenedig a thystiolaeth o sgiliau. Bydd portffolio o dystiolaeth yn cael ei gynhyrchu. Byddwch yn dod i’r Coleg un diwrnod yr wythnos (dydd Iau) rhwng 11.30pm a 18.30pm am 15 wythnos. Wedyn bydd cyfnod o dair wythnos i gwblhau’r holl aseiniadau a phortffolio o dystiolaeth. Bydd disgwyl i chi gwblhau o leiaf dair awr yr wythnos o astudio annibynnol.
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus gallwch symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 eraill neu’r cwrs Gradd Sylfaen Uwch Therapïau a Rheolaeth Sba neu gyrsiau therapi harddwch.
Gwybodaeth Ychwanegol
Additional Information
Rhaid i fyfyrwyr ddod i sesiwn arweiniad gorfodol cyn cofrestru. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr brynu eu cit / iwnifform eu hunain os nad ydynt eisoes ganddynt. Byddwn yn rhoi ffurflenni archebu yn ystod y sesiwn arweiniad.
Costau:
Iwnifform: tua £50
Portffolio: tua £10