Trosolwg o’r Cwrs
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Diweddarwyd Mehefin 2022
Gofynion Mynediad
Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr feddu ar un neu ddwy radd A-C ar lefel TGAU. Fodd bynnag, mae synnwyr cyffredin a dawn am rifau ac amcangyfrif yn bwysicach.
Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd BT – Busnes a Thechnoleg – yn eich addysgu sut mae busnesau’n gweithredu’n effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol a bydd yn dangos y rôl hanfodol y mae gweithwyr proffesiynol cyllid yn ei chwarae i gyflawni hyn. Byddwch yn deall busnes yng nghyd-destun ei amgylchedd, gan gynnwys dylanwadau economaidd, cyfreithiol a rheoleiddiol ar agweddau fel llywodraethu, cyflogaeth, iechyd a diogelwch, diogelu data a diogelwch eiddo.
Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.
COVID 19
Rydym yn obeithiol na fydd cyfnod clo arall oherwydd cyfyngiadau Covid 19 yn y dyfodol, ond, os yw’n berthnasol, bydd mesurau a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol y coleg ar waith i’ch amddiffyn chi ac eraill. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo’r Coleg i gau am gyfnod oherwydd Covid 19, bydd addysgu ar-lein yn digwydd hyd nes y codir y cyfyngiadau.
Cynigir arholiadau ffurfiol yn ôl y gofyn.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill MA, FA, LW, PM, FR, TX, AA, FM SBL a SBR, a phynciau dewisol.
Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae'r Coleg yn gallu cynnig gwasanaeth mentora ar gyfer y cymhwyster hwn sydd ar hyn o bryd yn £500. Cysylltwch â Emma Thomas - Emma.Thomas@gcs.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi cwrs a deunyddiau astudio £475 fesul uned
Ffi gofrestru ACCA tua £95
Ffi aelodaeth ACCA tua £121
Ffi arholiad tua £100
Gellir ariannu’r cwrs hwn trwy ein Cynllun Prentisiaeth neu’r Cynllun Sgiliau ar gyfer Diwydiant – gofynnwch am ragor o fanylion neu am unrhyw gyllid sydd ar gael.
Dyddiad dechrau: Dydd Mawrth 6 Medi 2022
Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk