Trosolwg o’r Cwrs
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Ar hyn o bryd, ni yw’r unig Ganolfan Addysg Bellach yn y DU i ddal y lefel hon o hyfforddiant. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Diweddarwyd Medi 2020
Gofynion Mynediad
Cwblhau AAT Cyfrifeg Broffesiynol Lefel 4 neu eithriadau gradd neu gwblhau modiwlau ACCA - AB (F1), MA (F2) a FA (F3).
Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Dull Addysgu’r Cwrs
LW (F4) – Y Gyfraith Gorfforaethol a Busnes
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau o ran deall y fframwaith cyfreithiol cyffredinol, a meysydd cyfreithiol penodol sy’n ymwneud â busnes, gan gydnabod yr angen i ofyn am gyngor cyfreithiol arbenigol pellach pan fo’n briodol.
Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd yn yr ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol. Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith ar ddyddiadau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill PM, FR, TX, AA, FM, SBL ac SBR, a phynciau dewisol.
Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi Gofrestru ACCA: £79
Ffi Aelodaeth ACCA: £105
Ffi Eithrio ACCA: £91 i £114 fesul uned
Ffi Arholiad: tua £114
Llyfrau: tua £25
Gellir ariannu’r cwrs hwn trwy ein Cynllun Sgiliau ar gyfer Diwydiant – gofynnwch am ragor o fanylion.
Os hoffech astudio'r cwrs hwn e-bostiwch Helen Delve - helen.delve@gcs.ac.uk