Trosolwg o’r Cwrs
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Ar hyn o bryd, ni yw’r unig Ganolfan Addysg Bellach yn y DU i ddal y lefel hon o hyfforddiant. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Diweddarwyd Medi 2020
Gofynion Mynediad
Cwblhau AAT Cyfrifeg Broffesiynol Lefel 4 neu eithriadau gradd neu gwblhau modiwlau ACCA - AB (F1), MA (F2) a FA (F3).
Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Dull Addysgu’r Cwrs
PM (F5) – Rheolaeth Perfformiad (FM). Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau o ran cymhwyso technegau cyfrifeg rheolaeth i wybodaeth feintiol ac ansoddol ar gyfer cynllunio, gwneud penderfyniadau, gwerthuso perfformiad a rheolaeth.
Oherwydd y rheoliadau COVID-19 parhaus, mae’n bosibl y byddwn yn cynnig cymysgedd o addysgu ar-lein ac yn yr ystafell ddosbarth.
Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill LW, FR, TX, AA, FM, SBL ac SBR, a phynciau dewisol.
Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae’r Coleg yn gallu cynnig gwasanaeth mentora ar gyfer y cymhwyster hwn sydd ar hyn o bryd yn £500. E-bostiwch Helen Delve - helen.delve@gcs.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffi Cwrs: £410
Ffi Gofrestru ACCA: £89
Ffi Aelodaeth ACCA: £112
Ffi Eithrio ACCA: £98 i £123 fesul uned
Ffi Arholiad: tua £114 (i’w gadarnhau)
Llyfrau: tua £25
Gellir ariannu’r cwrs hwn trwy ein Cynllun Sgiliau ar gyfer Diwydiant – gofynnwch am ragor o fanylion.