Trosolwg o’r Cwrs
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Uned
TX – Treth
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau cysylltiedig â’r system dreth fel sy’n briodol i unigolion, cwmnïau unigol a grwpiau o gwmnïau.
Diweddarwyd Mehefin 2022
Gofynion Mynediad
Cwblhau AAT Cyfrifeg Broffesiynol Lefel 4 neu eithriadau gradd, neu gwblhau modiwlau ACCA - BT, MA ac FA.
Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs drwy ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau staff cymwysedig a phrofiadol.
COVID 19
Rydym yn obeithiol na fydd cyfnod clo arall oherwydd cyfyngiadau Covid 19 yn y dyfodol, ond, os yw’n berthnasol, bydd mesurau a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol y coleg ar waith i’ch amddiffyn chi ac eraill. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo’r Coleg i gau am gyfnod oherwydd Covid 19, bydd addysgu ar-lein yn digwydd hyd nes y codir y cyfyngiadau.
Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA.
Cyfleoedd Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill LW, PM, FR, AA, FM, SBL ac SBR, a phynciau dewisol.
Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae’r Coleg yn gallu cynnig gwasanaeth mentora ar gyfer y cymhwyster hwn sydd ar hyn o bryd yn £500.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd cwrs a deunyddiau astudio - £570 fesul uned
Ffi gofrestru ACCA tua £95
Ffi aelodaeth ACCA tua £121
Ffi eithrio ACCA tua £98 i £143 fesul uned
Ffi Arholiad tua £143
Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.
Dyddiad dechrau: Dydd Mercher 18 Ionawr 2023
Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â’r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 accountancy@gcs.ac.uk