Graddau Safon UG/Uwch a TGAU a Bennir gan y Ganolfan – apelio
Caiff graddau dros dro eu rhyddhau ar dydd Mercher 9 Mehefin.
Os ydych chi’n teimlo nad yw unrhyw un o’ch graddau’n adlewyrchu’r dystiolaeth o’ch asesiadau, mae gennych gyfle i ofyn i’ch gradd gael ei hadolygu. Yn unol â chanllawiau Cymwysterau Cymru, i ddechrau gallwch ofyn i’r coleg adolygu’r radd.
Sylwch y gallai adolygiad neu apêl arwain at eich gradd yn aros yr un fath, yn cael ei chodi neu ei gostwng.
Safon UG / Uwch / TGAU a Her Sgiliau - Graddau a Bennir gan y Ganolfan
Bydd Graddau dros dro a Bennir gan y Ganolfan yn cael eu rhoi i ddysgwyr ar ddydd Mercher 9 Mehefin, drwy’r post a’r e-CDU.
Ni fydd y pynciau canlynol yn cyhoeddi ar 9 Mehefin, oherwydd maen nhw’n cael eu rheoleiddio yn Lloegr ac felly maen nhw’n dilyn proses wahanol:
Safon UG/Uwch Cyfrifeg
Safon UG/Uwch Electroneg
Safon UG/Uwch Technoleg Cerdd
Safon UG/Uwch Dawns
Safon UG/Uwch Daeareg
Safon UG/Uwch Hanes yr Hen Fyd
Safon UG/Uwch Clasuron
Tystysgrif a Diploma Troseddeg
Prosiectau Estynedig