Paratoi ar gyfer Dysgu (Cyn-fynediad) Lefel 2
Trosolwg
Cwrs paratoi ar gyfer addysg oedolion
Mae Paratoi ar gyfer Dysgu (Cyn-fynediad) yn gwrs Lefel 2 byr sy’n bwriadu eich helpu i ennill y sgiliau sydd eu hangen i gwblhau aseiniadau’n llwyddiannus ar lefel uwch.
Mae’r cwrs wedi cael ei greu i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer astudiaethau academaidd llwyddiannus. Mae Dysgu ar gyfer Dilyniant wedi’i strwythuro i roi cyflwyniad cyffredinol i chi i fyd addysg bellach, gan eich galluogi i ddewis llwybrau dilyniant realistig.
Amcanion y cwrs:
- Ennill dealltwriaeth o’r gofynion i astudio ar lefel uwch
- Datblygu sgiliau astudio ac ysgrifennu academaidd
- Ysgrifennu aseiniadau i’r lefel ofynnol.
Canlyniadau’r cwrs:
- Bydd myfyrwyr yn gallu ymdopi’n well â gofynion cwrs Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Lefel 2 neu gwrs Mynediad Lefel 3
- Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu sgiliau rheoli astudio hanfodol
- Bydd myfyrwyr yn gallu ysgrifennu’n academaidd i baratoi ar gyfer cyrsiau yn y dyfodol.
Sylwch – nid yw cwblhau’r cwrs Paratoi ar gyfer Dysgu byr yn golygu y byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i gwrs blwyddyn Mynediad Lefel 3.
Gwybodaeth allweddol
Gyda gofynion y rhaglen Lefel 2 hon a’r disgwyliadau i symud ymlaen i Lefel 3, mae angen i fyfyrwyr fod yn ddibynadwy ac yn onest, bod ag agwedd gadarnhaol, bod yn ymroddedig, yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant i astudio.
Dylai myfyrwyr sicrhau bod eu sgiliau presennol yn ddigonol i allu ymdopi â gofynion y cwrs Lefel 2 hwn. Disgwylir i fyfyrwyr feddu ar gymhwyster llythrennedd Lefel 1 cyn gwneud cais.
Mae’r cwrs hwn yn rhedeg am naill ai chwech neu ddeg wythnos, un diwrnod/noson neu ddwy noson yr wythnos yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn. Mae amserau’r cwrs yn amrywio hefyd i weddu i’ch anghenion:
Lleoliad: Campws Tycoch
- Bob dydd Llun (1-5pm)
Neu
- Bob dydd Mawrth (4.30-8.30pm)
Neu
- Bob dydd Iau (4.30-8.30pm)
Neu
- Bob dydd Gwener (9.30am-2pm)
Neu
- Bob dydd Mawrth a dydd Iau (6-9pm)
Addysgu wyneb yn wyneb heb opsiwn ar-lein.
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Ysgrifennu traethodau
- Dadleuon academaidd
- Cyflwyniad unigol
- Cynllunio gyrfa
- Rhifedd.
Efallai y bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i raglen Lefel 3 yn y Coleg, yn bennaf raglen Mynediasd i AU.
Bydd myfyrwyr sydd angen rhagor o amser i ddatblygu yn cael cyfle i astudio ar y cwrs Dilyniant Oedolion ar Lefel 2.
Gall myfyrwyr wneud cais ar-lein ac ymuno â’r cwrs yn uniongyrchol ar y dyddiad dechrau neu (argymhellir eich bod yn) e-bostio’r cyfeiriad isod. Yna, bydd myfyrwyr yn cael eu gwahodd i’r Coleg am sesiwn wybodaeth. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau am y rhan fwyaf o gyrsiau i oedolion sydd ar gael yn yr adran a bydd cyfleoedd i gofrestru ar y cwrs paratoi hwn hefyd.
Gwybodaeth gyswllt: leanne.dalling@gcs.ac.uk
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru i Gefnogi Dysgu
Os ydych chi’n 19 oed neu hŷn ac yn astudio cwrs Mynediad yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech dderbyn cymorth ariannol trwy Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (AB) ar gyfradd cyrsiau ‘rhan-amser’ (Mae cyrsiau Mynediad yn dod o dan gategori cyllid 275-499 awr).
Canllawiau cymhwystra
Oedran: Rhaid bod yn 19 oed neu hŷn.
Incwm: Prawf modd – seiliedig ar incwm y cartref. Gallai dysgwyr sydd ag incwm o £18,370 neu lai dderbyn hyd at £959 y flwyddyn.
Cyfnod preswyl: Ar gael i ddysgwyr cymwys yng Nghymru neu unrhyw le arall yn y DU.
Defnydd o gyllid: Mae’n helpu gyda chostau fel llyfrau, offer a theithio.
Sut i wneud cais: Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu siaradwch ag un o Ymgynghorwyr Cyllid Myfyrwyr y Coleg.