Skip to main content

BA (Anrh) mewn Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon

Amser-llawn
Lefel 6
Tycoch
Tair blynedd (AL) / Chwe blynedd (RA)
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol Abertawe

Swansea University Logo

Dysgwch am fyd deinamig hyfforddiant a pherfformiad chwaraeon.

Archwiliwch fyd deinamig hyfforddiant a pherfformiad chwaraeon ar ein rhaglen BA, sy’n meithrin dealltwriaeth ddofn o dechnegau datblygu athletaidd a hyfforddi strategol. Ymchwiliwch i seicoleg chwaraeon, moeseg, lles, technoleg a dadansoddi perfformiad, cael profiad ymarferol o ddylunio rhaglenni hyfforddi effeithiol.

Mae ein cwricwlwm yn cyfuno’r ymchwil ddiweddaraf a’r tueddiadau diwydiant, gan roi’r sgiliau i chi wella perfformiad athletwyr hyd yr eithaf.

Cymerwch ran mewn sesiynau ymarferol, sesiynau a addysgir, a sefyllfaoedd hyfforddi go iawn, a hogi eich gallu i arwain ac ysbrydoli timau.

Gall y cwrs hwn arwain at yrfa lewyrchus fel hyfforddwr hyfedrus. Mae llawer yn mentro i’r diwydiant ffitrwydd a hamdden, neu’n gweithio gyda thimau chwaraeon academi a phroffesiynol.

Cod UCAS: F180

Gwybodaeth allweddol

Mynediad safonol

Mae cyfuniadau o’r cymwysterau isod yn dderbyniol a gallem dderbyn cymwysterau eraill nad ydynt ar y rhestr ar sail unigol hefyd:

  • Tariff UCAS: 48 Pwynt 
  • Cynnig Safon Uwch nodweddiadol: DD  (gan gynnwys cymhwyster Bagloriaeth Cymru)
  • Cynnig BTEC nodweddiadol: Proffil Lefel 3 BTEC Teilyngdod/Pasio neu Pasio/Pasio/Pasio
  • Cynnig Mynediad i AU nodweddiadol: Diploma Pasio gyda chyfanswm o 60 credyd gan gynnwys 45 credyd Lefel 3, graddau pasio i gyd.

Mynediad ansafonol

Ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar y cymwysterau mynediad gofynnol arferol e.e. bydd myfyrwyr hŷn sydd â phrofiad cyflogaeth perthnasol yn cael eu hystyried yn unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen ac aelodau eraill o dîm y rhaglen.

Mynediad myfyrwyr ar Lefel 5 neu 6

Polisi’r Coleg yw caniatáu i fyfyrwyr gael mynediad ar Lefelau 5 neu 6 os ydynt yn diwallu’r meini prawf canlynol: 

Gall myfyrwyr sydd am drosglwyddo o un o gyrsiau gradd israddedig eraill y Coleg wneud hynny ar yr amod eu bod yn cyflwyno cais trosglwyddo ffurfiol i Gyfarwyddwr y Rhaglen a bod yna ddigon o dystiolaeth bod canlyniadau dysgu’r modiwlau ar y rhaglen yn ddigonol. Bydd myfyrwyr yn cael eu trosglwyddo ar ddiwedd blwyddyn un yn ôl disgresiwn Cyfarwyddwr y Rhaglen. 

Rydym yn gofyn am sgôr IELTS safonol o 6.5 yn achos unrhyw ddysgwr sydd â Saesneg fel ail iaith ac na all ddangos tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg trwy ddulliau eraill megis cymwysterau lefel uwch a enillwyd yn y DU. Nid yw hyn yn berthnasol i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf. 

Mae Saesneg a Mathemateg neu gyfwerth yn ddymunol. Rydym yn derbyn cymwysterau fel sgiliau hanfodol a modiwlau mynediad ar Lefel 2. Fel canolfan AU ehangu cyfranogiad sydd â nifer fawr o fyfyrwyr galwedigaethol o raglenni mynediad anhraddodiadol byddem yn pryderu ynghylch gofyn am gymwysterau TGAU. Fodd bynnag, rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ailsefyll arholiadau tra byddant yn astudio gyda ni. 

Yn achos myfyrwyr sydd am drosglwyddo o raglenni gradd mewn sefydliadau eraill, gellir trosglwyddo 120 credyd i Brifysgol Abertawe os yw eu rhaglen wedi bod yn eithaf tebyg i’r hyn a gynigir ar Lefel 4. Mae hyn yn amodol ar gymeradwyaeth Cyfarwyddwr perthnasol y Rhaglen. 

Modiwlau 

Lefel 4  

Sgiliau Academaidd  
Menter mewn Chwaraeon
Hanfodion Hyfforddi Chwaraeon
Egwyddorion Perfformiad Chwaraeon
Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yn y Gymuned
Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol 1. 

Lefel 5  

Proses ac Ymarfer Hyfforddi
Moeseg mewn Chwaraeon
Iechyd Meddwl
Lles mewn Chwaraeon
Ymchwil ar gyfer Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon
Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol 2.

Lefel 6  

Hyfforddiant Chwaraeon Uwch
Traethawd/Prosiect
Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Chwaraeon
Rheoli Amgylchedd Chwaraeon Perfformiad Uchel
Ymarfer Proffesiynol Cymhwysol 3. 

Asesu 

Dim arholiad, 100% gwaith cwrs. 

Asesir y cwrs trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol yn ogystal â gwaith cwrs ysgrifenedig. Mae asesiadau cysylltiedig â lleoliad hefyd.  

Gall y cymhwyster Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon hwn arwain at amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth, gan gynnwys:    

  • Hyfforddwr chwaraeon yn y gymuned
  • Hyfforddwr chwaraeon perfformiad
  • Athro/athrawes addysg gorfforol
  • Datblygwr chwaraeon
  • Rheolwr a gweinyddwr chwaraeon
  • Hyfforddwr datblygu
  • Hyfforddwr cryfder a chyflyru
  • Marchnatwr chwaraeon
  • Swyddog adnabod talent.  

Astudiaethau pellach, er enghraifft: 

Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch, MSc (Prifysgol Abertawe)

Seicoleg Chwaraeon, MSc (Prifysgol Abertawe)

Gwyddor Chwaraeon, MSc trwy Ymchwil (Prifysgol Abertawe)

Costau’r cwrs  

£9,000 y flwyddyn amser llawn. 

Mae'r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau Addysg Uwch amser llawn (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant cwrs boddhaol). I gael gwybodaeth am gymorth ariannol - gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.  

Hyd y cwrs 

Addysgir y cwrs hwn dros dair blwyddyn academaidd ar Gampws Tycoch.  

Sut i wneud cais 

Bydd angen i chi wneud cais trwy UCAS (cod UCAS yw F180). 

Click here to apply. 

Ffioedd ychwanegol

  • Cit chwaraeon opsiynol - tua £100
  • Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
  • Llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cof bach)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio
  • Teithiau ac ymweliadau achlysurol (opsiynol)
  • £38 am wiriad DBS ar gyfer lleoliadau ar y cwrs.

Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol  

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol.

Cysylltu

Ffôn: Tîm Addysg Uwch 01792 284098

E-bost: he@gcs.ac.uk