Echwaraeon - Gradd Sylfaen
Trosolwg
NEWYDD ar gyfer 2024
Corff llywodraethu: Prifysgol De Cymru
Nod y cwrs yw paratoi dysgwyr ar gyfer gyrfaoedd mewn e-Chwaraeon a’r cyfryngau neu astudiaethau pellach, gan greu graddedigion medrus sydd â hunanreolaeth, hyder ac arbenigedd ymarferol.
Modiwlau Lefel 4:
- Theori, Diwylliant a Hanes e-Chwaraeon
- Strategaethau, Hyfforddi, Chwarae Cystadleuol a Seicoleg
- Iechyd, Ffitrwydd a Lles mewn e-Chwaraeon
- Gemau Un Chwaraewr mewn e-Chwaraeon
- Prif Gynnwys Hashnod.
Modiwlau Lefel 5:
- Dylunio Gemau Amlchwaraewr mewn e-Chwaraeon
- Ynysoedd yn y Ffrwd
- Prosiect Unigol Seiliedig ar Waith
- Cynllunio Digwyddiad (Prosiect Grŵp Byw)
- Sgiliau Proffesiynol ar gyfer e-Chwaraeon
- Eich Busnes mewn e-Chwaraeon.
Cod UCAS: F170
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod gennych un o'r canlynol:
- Safon Uwch – DD
- Proffil perthnasol BTEC Lefel 3 sef Teilyngdod/Pasio neu Pasio/Pasio/Pasio
- Bagloriaeth Cymru - Gradd C a DE Safon Uwch
- Mynediad i AU - Diploma Pasio gyda 60 credyd yn gyffredinol, gan gynnwys 45 credyd Lefel 3 (graddau pasio i gyd).
Mae Saesneg a Mathemateg neu’r cyfwerth yn ddymunol. Rydym yn derbyn cymwysterau fel sgiliau hanfodol a modiwlau mynediad ar lefel 2. Fel canolfan AU ehangu cyfranogiad sydd â nifer fawr o fyfyrwyr galwedigaethol o raglenni mynediad anhraddodiadol, byddem yn pryderu ynghylch gofyn am gymwysterau TGAU. Ond rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ailsefyll wrth iddynt astudio gyda ni.
Efallai y bydd angen cyfweliad llwyddiannus. Gallwn ystyried oedran a phrofiad os nad yw’r meini prawf gradd wedi’u bodloni.
Amser Llawn, dydd Llun i ddydd Gwener.
Aseiniadau: 100%
Gyda gradd sylfaen mewn e-Chwaraeon, gall eich dilyniant gyrfa ddatblygu ar draws amryw o lwybrau cyffrous.
Gallech ystyried symud ymlaen i radd Baglor llawn mewn Rheoli e-Chwaraeon, Marchnata, neu Ddylunio Gemau i ddyfnhau eich arbenigedd. Gallech ddilyn ardystiadau arbenigol i wella’ch sgiliau mewn meysydd fel datblygu gemau neu reoli digwyddiadau e-Chwaraeon. Gallech gymryd rhan mewn interniaethau neu rolau lefel mynediad o fewn sefydliadau e-Chwaraeon, cwmnïau gemau cyfrifiadurol, neu gwmnïau rheoli digwyddiadau i gael profiad ymarferol. Gallech archwilio rolau fel rheolwr e-Chwaraeon, arbenigwr marchnata, dylunydd gemau, neu drefnydd twrnamaint. Cadwch i fyny â thueddiadau’r diwydiant, adeiladwch rwydwaith proffesiynol, ac ystyriwch rolau arwain i ddatblygu’ch gyrfa mewn e-Chwaraeon.
Ffioedd dysgu:
Ffioedd y cwrs hwn yw £7,500 y flwyddyn.
Costau ychwanegol:
- Cyfrifiadur gemau (opsiynol) £800
- Gwe-gamera (opsiynol) £30
- Penset (opsiynol) £45
Rhagor o wybodaeth ar gyfer Cymru: http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Derbyn bwrsari Coleg gwerth £1,000 y flwyddyn (yn amodol ar ddilyniant boddhaol)
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn:
- Teithio i’r Coleg neu’r lleoliad ac yn ôl
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach USB)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu cael cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os ydych yn teimlo bod hyn yn berthnasol i chi.
Ffôn: Tîm Addysg Uwch 01792 284098
E-bost: he@gcs.ac.uk