Echwaraeon Lefel 3 - Diploma Estynedig
Arolwg
Ar y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion Echwaraeon trwy amrywiaeth o brosiectau gwahanol. Bydd myfyrwyr yn gyfrifol am greu portffolio o waith i arddangos eu sgiliau ar draws gwahanol unedau. Bydd yr unedau’n cynnwys Dylunio Gemau, Digwyddiadau Echwaraeon, Darllediadau Byw wedi’u Ffrydio, Cyfryngau Cymdeithasol, Brandio, Hyfforddi Echwaraeon a rhagor. Mae’r unedau hyn yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a hyrwyddo eu hunain yn y diwydiant Echwaraeon. Byddan nhw’n gallu defnyddio’r gwaith y maen nhw wedi’i greu i hyrwyddo eu sgiliau i ddarpar gyflogwyr.
Amcanion y Cwrs:
- Ennill dealltwriaeth eang o Echwaraeon a gallu astudio rhai meysydd yn fanylach
- Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o Echwaraeon
- Dysgu sut i sefydlu, dylunio a brandio timau, logos, nwyddau ac ati
- Datblygu a chreu mannau cyfryngau cymdeithasol fel eich sianeli YouTube a Twitch eich hunain
- Cael cyfle i gymhwyso dysgu mewn ffordd ymarferol a realistig
- Dilyn rhaglen astudio sy’n galluogi dilyniant i addysg uwch a chyflogaeth ym meysydd TGCh, busnes a marchnata
- Magu hyder trwy ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau Echwaraeon fel British Esports, Insomnia ac ati.
Deilliannau'r Cwrs:
- Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth o amrywiaeth o agweddau yn y diwydiant Echwaraeon
- Bydd myfyrwyr yn gallu dewis o blith amrywiaeth o yrfaoedd gan gynnwys hyfforddi, darlledu, y cyfryngau cymdeithasol, marchnata a rheoli digwyddiadau.
Gwybodaeth allweddol
- O leiaf bum gradd A*-C ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith
- Neu gymhwyster Diploma Lefel 2 mewn Technoleg Gwybodaeth neu’r cyfwerth.
Asesu:
Gwaith cwrs.
Meini Prawf Graddio:
Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Digwyddiadau, Darllediadau Byw wedi’u Ffrydio a rhagor.