Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai Lefel 3 - Diploma
Trosolwg
Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn sefydliad gwasanaeth cyhoeddus megis yr heddlu, y gwasanaeth tân neu’r lluoedd arfog. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Dinasyddiaeth ac amrywiaeth
- Ymddygiad a disgyblaeth#
- Paratoi corfforol, iechyd a lles
- Gwaith tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu
- Llywodraeth a’r gwasanaethau amddiffynnol
- Sgiliau ymgyrch
- Cyflwyniad i droseddeg.
Gwybodaeth allweddol
Pum gradd C ac uwch ar lefel TGAU neu Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Gwasanaethau Cyhoeddus (proffil Teilyngdod)
O leiaf radd C mewn TGAU Saesneg a Mathemateg.
Yn aml mae siaradwyr gradd ac ymweliadau addysgol yn rhan o’r cwrs. Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i fynd i ddigwyddiadau megis cyrsiau gweithgareddau awyr agored ac adeiladu tîm.
Byddwch yn astudio Bagloriaeth Cymru ochr yn ochr â’r cwrs hwn.
Gallwn addysgu rhannau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gallech symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon
Mae’r myfyrwyr sy’n cael llwyddiant ar y cwrs Diploma Estynedig yn gallu symud ymlaen i addysg uwch i astudio cwrs HND neu gwrs gradd mewn amrywiaeth o bynciau. Neu, gall myfyrwyr wneud cais i ymuno â sefydliad gwasanaeth cyhoeddus ar ôl cwblhau’r cwrs.
Efallai y bydd costau os bydd gwibdeithiau’n cael eu trefnu.