Skip to main content

Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 2 (CIWM, Wamitab) – Diploma

GCS Training
Lefel 2
Wamitab
Llys Jiwbilî
TBC
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr i weithio yn unol â gofynion y diwydiant ailgylchu ar gyfer casglu, derbyn a gwahanu, prosesu a gweithgareddau WEEE. 

Gall dysgwyr ddewis pa lwybr sydd fwyaf addas ar gyfer eu rôl swydd bresennol, fel eu bod yn gymwys i weithio ar y safle. 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, ond bydd angen i ddysgwyr fod yn gyflogedig mewn swydd addas gan ei fod yn cael ei asesu ‘yn y swydd’.

Bydd aseswr yn ymweld â gweithle’r dysgwr i arsylwi ei waith ‘yn y swydd’ bob pedair i chwe wythnos. Bydd yr ymweliadau yn digwydd ar sail un-i-un i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr. Bydd aseswyr yn gosod tasgau, darparu cymorth a’ch arwain trwy’r cymhwyster.

Unedau gorfodol

  • Hyrwyddo cynaliadwyedd ac arferion da amgylcheddol yn y diwydiant ailgylchu
  • Meithrin cysylltiadau â chydweithwyr a phobl eraill
  • Cydymffurfio â phrosesau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Annog gwasanaethau ailgylchu trwy hyrwyddo
  • Datblygu perfformiad personol

Unedau dewisol

Gall dysgwyr ddewis y llwybr cyffredinol neu un o’r pedwar llwybr proffesiynol:

  • Casglu
  • Derbyn a gwahanu
  • Prosesu
  • WEEE

Os bydd dysgwyr yn dewis llwybr penodol, bydd teitl y grŵp llwybr i’w weld ar eu tystysgrif derfynol. 

Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy Lefel 3 (CIWM, Wamitab) - Diploma

Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n adeiladu e-bortffolio o dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgareddau ymarferol a wnaed yn y gweithle i ddangos gwybodaeth a chymhwysedd. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys:

  • Cwestiynau ac atebion
  • Arsylwadau
  • Tystebau
  • Tystiolaeth gweithle
  • Astudiaethau achos
  • Llyfrau gwaith
  • Trafodaeth broffesiynol