Skip to main content

Tai Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae ein prentisiaethau Tai wedi’u hariannu’n llawn, ac yn gyfle i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau allweddol er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa tai. Bydd y prentisiaethau yn rhoi modd i chi ennill yr arbenigedd technegol, y profiad ymarferol a’r set sgiliau ehangach sydd eu hangen i symud ymlaen yn eich rôl a’ch gyrfa o fewn y sector. Gellir defnyddio’r prentisiaethau i uwchsgilio staff newydd neu bresennol.

Mae prentisiaeth Lefel 2 ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio o fewn y sector tai ac sydd â chontract cyflogaeth sy’n para cyfnod y prentisiaeth o leiaf.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Ar Lefel 2, os ydych chi’n 25 oed neu hŷn, gallwch ymgymryd â’r brentisiaeth hon dim ond os ydych wedi bod yn gyflogedig yn eich rôl bresennol am lai na chwe mis adeg cofrestru. Os ydych chi’n iau na 25, nid yw’r gofynion mynediad hwn yn berthnasol i chi. 

Addysgir y prentisiaethau trwy gymysgedd o weithdai a dysgu yn y gweithle, ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gallwn ddarparu dull hyblyg i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr.

CIH Tystysgrif Lefel 2 mewn Tai – Unedau Gorfodol

  • Darpariaeth tai a sefydliadau tai
  • Gwasanaeth cwsmeriaid ym maes tai
  • Datblygiad proffesiynol ym maes tai 
  • Atgyweirio a chynnal a chadw asedau

NVQ Tystysgrif Lefel 2 mewn Tai – Unedau Gorfodol

  • Datblygu a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid mewn cyd-destun tai
  • Cynnal ymddygiad proffesiynol a chysylltiadau gwaith mewn cyd-destun tai
  • Cynnal iechyd a diogelwch i chi’ch hun a phobl eraill
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sectorau Rheoli Cyfleusterau, Tai ac Eiddo

NVQ Tystysgrif Lefel 2 mewn Tai – Unedau Dewisol

Rhaid cwblhau o leiaf chwe chredyd o’r unedau dewisol. Byddwch yn dewis amrywiaeth o unedau dewisol i sicrhau eich bod yn cwmpasu’r sgiliau hynny sy’n fwyaf perthnasol i’ch rôl. Mae enghreifftiau’n cynnwys: 

  • Asesu angen am dai
  • Cydnabod a delio ag ymholiadau, ceisiadau a phroblemau cwsmeriaid
  • Trefnu gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio eiddo
  • Prosesu dogfennau cysylltiedig â gweithgareddau tai
  • Defnyddio systemau TGCh mewn cyd-destun tai
  • Helpu cleientiaid i ddefnyddio’r gwasanaeth cyngor ac arweiniad tai

Tai Lefel 3 - Prentisiaeth

Bydd dwy elfen asesu i’r prentisiaethau:

CIH Tystysgrif mewn Tai

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr gwblhau aseiniad ar ôl cwblhau pob modiwl er mwyn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth. Bydd asesiadau yn wahanaol ar gyfer pob uned, a byddant yn cynnwys gweithgareddau yn y dosbarth ac ar ôl y dosbarth hefyd. Bydd y gweithgareddau yn datblygu’ch sgiliau ysgrifennu academaidd, eich sgiliau TG, eich sgiliau cydweithredu a’ch sgiliau cyflwyniad personol. 

NVQ Tystysgrif mewn Tai

Wrth i chi symud trwy’r cymhwyster, byddwch yn adeiladu e-bortffolio o’r dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol er mwyn dangos eich gwybodaeth a’ch cymhwysedd. Bydd dulliau asesu yn cynnwys cwestiynau ac atebion, arsylwadau, tystebau a mwy.