Skip to main content

Cyflwyniad i Wneud Bara

Rhan-amser
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad da i fara a melysion burum. 

Byddwch yn dysgu sut i wneud amrywiaeth o fara ac eitemau wedi’u heplesu, gan ddefnyddio dulliau a thechnegau traddodiadol.  

Gall yr eitemau y byddwch yn eu paratoi gynnwys torthau bara, rholiau bara, byns wedi’u heplesu e.e. byns Chelsea, byns eisin a bara arbenigol. 

Gwybodaeth allweddol

Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen gwella’ch sgiliau. 

18+ oed  

Gan eich bod yn gweithio ym maes cynhyrchu bwyd:  

  • Dim gemwaith na thlysau 
  • Dim farnais ewinedd nac ewinedd jel  
  • Caniateir ychydig iawn o golur.

Arddangosiadau gan y darlithydd, gwaith ymarferol.  

Ni fydd asesiad ffurfiol.

Drwy gydol y sesiynau, cewch adborth geiriol, ynghyd ag awgrymiadau a chymhorthion defnyddiol. 

Byddwn ni’n darparu ryseitiau, ac rydyn ni’n eich annog i gadw’r rhain mewn portffolio bach.

Gallech symud ymlaen i gwrs amser llawn. Gallech ddewis dilyn cwrs byr, anachrededig arall.

Ffioedd y cwrs - £175.

Gan eich bod yn paratoi bwyd, mewn cegin fasnachol, rhaid i fyfyrwyr ddarparu’r canlynol:  

  • Het a gymeradwyir gan y diwydiant (rhwyd wallt o leiaf) 
  • Cot wen (ffedog o leiaf) 
  • Esgidiau caeedig di-lithr. 

Bydd cynhwysion yn costio tua £10 yr wythnos.

Off