Skip to main content

Mynediad i Sgiliau Cwnsela a Seicoleg

Amser-llawn
Lefel 3
AGORED
Tycoch
Un blwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs Mynediad i Sgiliau Cwnsela a Seicoleg yn rhaglen lwyddiannus sy’n paratoi myfyrwyr hŷn neu’r rhai sydd am newid gyrfa ar gyfer byd gwaith neu Addysg Uwch (galwedigaethol neu academaidd).

Mae’r cwrs yn cynnwys unedau sgiliau astudio i ddatblygu sgiliau yn ogystal ag astudiaethau academaidd i baratoi myfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch ym maes seicoleg a chwnsela. Mae’r cwrs yn cefnogi myfyrwyr trwy broses geisiadau UCAS ar gyfer mynediad i sefydliadau Addysg Uwch ledled y DU a Gogledd Iwerddon.

Mae’r unedau hyn yn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer Addysg Uwch:

  • Sgiliau astudio mynediad
  • Sgiliau astudio i lwyddo
  • Ymchwil – cynnig prosiect
  • Trin data
  • Cyfathrebu llafar
  • Cyfathrebu ysgrifenedig
  • Cymhwyso rhif
  • Seicoleg annormal
  • Sgiliau cyflwyniad llafar
  • Problemau moeseg feddygol
  • Profiad gwaith
  • Deddfwriaeth gysylltiedig â chyfle cyfartal
  • Dyddiadur myfyriol cwnsela
  • Gweithio gyda cholled a phrofedigaeth
  • Dulliau cwnsela
  • Seicoleg fiolegol
  • Cyflwyniad i seicoleg
  • Seicoleg annormal
  • Seicoleg straen
  • Gweithredu prosiect
  • Prosiect integredig
  • Sgiliau ymchwilio
  • Technoleg gwybodaeth

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau cwrs cyn-fynediad neu gwblhau aseiniad mynediad yn llwyddiannus.

Mae rhan o’r rhaglen hon yn cynnwys sgiliau cwnsela. Mae angen ystyried cod ymddygiad BACP, ac felly mae angen i ddarpar fyfyrwyr siarad ag ymgynghorydd neu ystyried y meini prawf canlynol i sicrhau addasrwydd i astudio cwnsela:

• Yn rhydd o brofedigaeth fawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
• Yn rhydd o gaethiwed – rydych wedi gwella am o leiaf blwyddyn
• Yn feddyliol dda - yn rhydd o bwl am o leiaf blwyddyn

Pwrpas yr holl fanylebau hyn yw sicrhau bod y myfyriwr yn cael y profiad gorau posibl yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac yn cydymffurfio â chod ymddygiad BACP. Bydd angen i fyfyrwyr hefyd ddangos mewn cyfweliad ddiddordeb gwirioneddol mewn pobl, agwedd gadarnhaol, yr angen i wneud yn dda ac ymrwymiad a brwdfrydedd dros astudio.

Mae angen i fyfyrwyr fod yn ddibynadwy, yn onest, ac yn llawn cymhelliant. Dylai myfyrwyr fod yn ymgeiswyr hŷn gyda thystiolaeth glir o brofiad bywyd.

Os hoffech wneud cais am y cwrs hwn, rhaid i chi fynd i sesiwn gwybodaeth Mynediad yn gyntaf. Ni fyddwch yn gallu ymgeisio am y cwrs hwn ar-lein. I gadw lle ar un o’r sesiynau gwybodaeth e-bostiwch Leanne.dalling@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284000.

Asesir y cwrs gan ddefnyddio arholiadau, traethodau, cyflwyniadau, seminarau, adroddiadau, gwaith triad, chwarae rôl ac mewn asesiadau wedi'u hamseru yn y dosbarth.

Disgwylir i fyfyrwyr gael lleoliad gwaith (tua 30 awr). Addysgir y cwrs gan ddefnyddio darlithoedd, siaradwyr gwadd, arddangosiadau/arsylwadau clinigol, gweithgareddau grŵp yn ogystal â sesiynau holi ac ateb anffurfiol i gynorthwyo myfyrwyr â’u cynnydd.

Mae gan y rhaglen amser llawn hon 14.5 awr yr wythnos o astudio dros dri diwrnod, a rhoddir awr ohoni i amser tiwtorial i helpu dysgwyr gyda cheisiadau UCAS, technegau cyfweld a gofal bugeiliol.

Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i’r brifysgol o’r cwrs hwn i astudio rhaglenni seicoleg, cwnsela, gwaith ieuenctid, gwaith cymdeithasol, cwnsela a seicoleg yn ogystal â rhaglenni gwyddorau cymdeithasol ac ati.

Disgwylir i fyfyrwyr (os nad ydyn nhw’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd yn y maes iechyd) ennill profiad gwaith sy’n addas i’r llwybr dilyniant maen nhw wedi’i ddewis. Rhoddir cyfle hefyd i fyfyrwyr ymweld â sefydliadau AU lleol ledled gorllewin Cymru i gwrdd â’r timau derbyn, gyda chost fach i dalu am deithio.