Skip to main content

Safon Uwch Dylunio Tecstilau (Ffasiwn/Dylunio Mewnol)

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Yn y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu cysyniadau sylfaenol dylunio tecstilau yng nghyd-destun ffasiwn a/neu ddylunio mewnol, gan gynnwys ymchwil artistiaid/dylunwyr proffesiynol a ffynonellau ymchwil hanfodol eraill i lywio’r daith ddylunio. Trwy brosiectau a gweithdai ymarferol, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o ddatblygu technegau tecstilau fel brodwaith llaw a pheiriant, gwaith gleiniau, laser, adeiladu creadigol ac ati. 

Amcanion y Cwrs: 

  • Deall egwyddorion sylfaenol y broses ddylunio a’i chymhwysiad trwy astudiaethau arsylwi a samplau tecstilau 
  • Datblygu sgiliau datrys problemau ymarferol a meddwl yn feirniadol
  • Datblygu a chreu darluniau ffasiwn/dylunio mewnol
  • Datblygu eich thema eich hun a chreu canlyniadau personol. 

 

Canlyniadau’r Cwrs:  

  • Gweithredu’r broses ddylunio a’i chymhwysiad yn llwyddiannus trwy astudiaethau arsylwi a samplau tecstilau
  • Cymhwyso dealltwriaeth gyd-destunol trwy ddulliau gweledol ac ysgrifenedig
  • Cynhyrchu darluniau Ffasiwn/Dylunio Mewnol, dyluniadau cysylltiedig, a chanlyniadau personol terfynol. 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg 
  • Mae gradd C mewn pwnc celf ar lefel TGAU yn hynod ddymunol ond nid yw’n hanfodol. 

Asesu:  

Mae’r cwrs yn cael ei asesu’n fewnol, a’i gymedroli’n allanol. 
 

Meini Prawf Graddio:  

Blwyddyn 1 (100% gwaith cwrs heb unrhyw arholiadau) 
UG Uned 1 – Ymchwiliad Creadigol Personol 
Asesiad di-arholiad 
40% o’r cymhwyster 
Dyddiadur Dylunio a Chanlyniad Terfynol. 

Blwyddyn 2 (100% gwaith cwrs heb unrhyw arholiadau) 
Safon Uwch Uned 2 – Ymchwiliad Personol 
Asesiad Di-arholiad 
36% o’r cymhwyster 
Dyddiadur Dylunio a Chanlyniad Terfynol. 

Safon Uwch Uned 3 – Aseiniad a Osodir yn Allanol 
Asesiad Di-arholiad 
24% o’r cymhwyster 
Rhan un: Cyfnod Astudio Paratoadol 
Rhan dau: Cyfnod Ffocws Parhaus 15 awr (asesiad di-arholiad) 

Gallech chi aros yn y Coleg a symud ymlaen i’r cyrsiau Gradd Sylfaen Celf a Dylunio neu Radd Sylfaen Ffasiwn a Dylunio Tecstilau. Mae Safon Uwch Dylunio Tecstilau yn agor nifer o ddrysau a gall fod yn hanfodol o ran creu llwybrau ar gyfer amrywiaeth eang o gyrsiau prifysgol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

Mae’r diwydiant tecstilau yn cynnig cyfoeth o rgaolygon a chyfleoedd gyrfa. Gallai myfyriwr graddedig tecstilau ddilyn gyrfa mewn ffasiwn, dylunio patrymau arwyneb, dylunio mewnol, dylunio gwisgoedd ffilm/theatr, hyrwyddo/newyddiaduraeth ffasiwn, addysgu neu fod yn artist/dylunydd tecstilau arbenigol mewn gemwaith tecstilau, gwneud ffelt, printio ac ati.  

Nod y cwrs yw meithrin creadigrwydd a chryfderau personol trwy astudiaethau annibynnol. Sylwch fod yna ffi £30 ar gyfer y cwrs hwn. 

Explore in VR