Skip to main content

Mynediad i Addysg Bellach - Mynediad 3

Amser-llawn
Lefel Mynediad 3
Tycoch
one year
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn cefnogi datblygiad sgiliau’r dysgwyr wrth baratoi ar gyfer dysgu lefel uwch. Bydd yn helpu’r dysgwyr i fagu hyder gan gynyddu cyfleoedd ar gyfer dilyniant. Byddan nhw’n ennill cymhwyster BTEC E3 – Mynediad i Astudiaethau Galwedigaethol. 

Nid yw’r cymhwyster yn arwain at gyfloageth yn uniongyrchol ond bydd yn helpu i ddatblygu’r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Mae’r unedau’n cynnwys:

  • Cymryd rhan mewn gweithgaredd dysgu awyr agored
  • Archwilio gwydnwch
  • Archwilio pwysigrwydd arian
  • Bod yn hunanymwybodol
  • Bod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd
  • Deall iechyd corfforol a lles
  • Cydnabod pwysigrwydd iechyd cymdeithasol a lles
  • Cymryd rhan mewn profiadau dysgu allanol
  • Dysgu iaith arwyddion Prydain
  • Deall lles emosiynol

24/5/23

Gwybodaeth allweddol

Does dim gofynion mynediad, ond bydd disgwyl i ddysgwyr weithio’n annibynnol ar dasgau’r aseiniad.

Asesir y cymhwyster drwy aseiniadau mewnol sy’n defnyddio amrywiaeth o fformatau.

Mae hwn yn gwrs blwyddyn, amser llawn, wedi’i leoli ar Gampws Tycoch.

Bydd angen ennill gradd teilyngdod ar y cwrs hwn er mwyn symud ymlaen i’r cwrs Dilyniant i AU Lefel 1 neu gyrsiau Lefel 1 eraill yn y Coleg.

Darperir yr holl offer angenrheidiol.

Ebost: AdvanceIntoFE@gcs.ac.uk