Trosolwg o’r Cwrs
Bwriad y cwrs blwyddyn hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ateb anghenion weldio a ffabrigo mecanyddol modern. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o unedau ac felly gallwch ganolbwyntio ar yr yrfa o’ch dewis neu faes diddordeb.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gofynion Mynediad
Pedair gradd D ar lefel TGAU a gradd C mewn Saesneg neu Fathemateg.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn fwy neu lai yn gyfwerth â phedwar cymhwyster TGAU. Mae iddo amrywiaeth eang o unedau ac felly mae myfyrwyr yn gallu canolbwyntio ar yr yrfa o’u dewis neu faes diddordeb. Mae strwythur y cymhwyster yn ceisio rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a thechnegau, sgiliau personol a rhinweddau.
Cyfleoedd Dilyniant
Technolegau Peirianneg (Diploma Technegol Estynedig Lefel 3).
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r eitemau canlynol yn hanfodol er mwyn cwblhau’r cwrs:
• Esgidiau diogelwch
• Oferôls gwrthfflam
• Cyfrifiannell wyddonol
• Pennau
• Pensiliau
• Pren mesur
• Rwber
• Pad ysgrifennu (papur llinellog a graff)