Trosolwg o’r Cwrs
Bwriad y cwrs blwyddyn hwn yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ateb anghenion amrywiaeth o ddiwydiannau peirianneg modern. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Peirianneg
- Mathemateg
- Egwyddorion mecanyddol a thrydanol
- Cynnal a chadw mecanyddol
- Drafftio gyda chymorth cyfrifiadur.
Byddwch hefyd yn cwblhau NVQ Lefel 2 fel rhan o’r cwrs hwn yn ogystal â’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y fframwaith prentisiaeth.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gofynion Mynediad
Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith a phwnc Gwyddoniaeth. Rhaid i chi basio prawf gallu hefyd (bydd hwn yn asesu’ch gallu i berfformio tasgau penodol ac ymateb i amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol).
Dull Addysgu’r Cwrs
Bydd myfyrwyr yn astudio amrywiaeth eang o unedau sy’n rhoi modd i ddysgwyr ganolbwyntio ar yr yrfa o’u dewis neu faes diddordeb a symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch.
Cyfleoedd Dilyniant
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gallech ddewis y cwrs HND mewn Peirianneg Drydanol neu Beirianneg Fecanyddol.
Mae’r cwrs hwn yn llwybr carlam i ail flwyddyn y rhaglen prentisiaeth neu mae’n dderbyniol ar gyfer mynediad i’r Diploma Cenedlaethol Uwch.