Skip to main content

STTEP (Pontio Myfyrwyr Tuag at Ddilyniant Cyflogaeth)

Amser-llawn
Lefel Mynediad 3
Pearson
Tycoch
36 weeks
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

 

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cynnig cyfle i ddysgwyr nodi’r sgiliau sydd eu hangen i ystyried dilyniant cyflogaeth ac mae’n gweithredu amrywiaeth o brosiectau gwirfoddoli yn y gymuned.

Caiff dysgwyr gyfle i gwblhau profiad gwaith i gefnogi eu diddordebau, ac mae hwn fel arfer yn lleoliad allanol megis yng Ngwesty Morgans, Sainsbury's, Prifysgol Abertawe, Gerddi Botanegol Singleton neu Westy’r Ddraig.

Bydd dysgwyr yn cael pedair awr yr wythnos o wersi rhifedd a llythrennedd er mwyn atgyfnerthu sgiliau ysgrifenedig, llafar a rhifedd yn ogystal â TGCh, gan gynnwys defnyddio e-bost, cyllid personol ac unedau gyrfa. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn astudiaethau dewisol, dewis sesiynau blasu galwedigaethol mewn pynciau megis chwaraeon, arlwyo ac addurno nwyddau tŷ.

Bwriedir y bydd dysgwyr yn cael cyfle i gwrdd â Gyrfa Cymru drwy gydol y flwyddyn, er mwyn creu cyswllt pontio i’r myfyrwyr a hoffai symud ymlaen i gyflogaeth.

Diweddarwyd Hydref 2017

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr wedi symud ymlaen o’r cyrsiau Mynediad 1 a Mynediad 2 fel arfer yn yr adran Sgiliau Byw’n Annibynnol. Bydd myfyrwyr wedi dangos y gallant weithio’n annibynnol, ac fel arfer deithio’n annibynnol. Mae’r cwrs ar gyfer myfyrwyr sy’n barod ar gyfer cyflogaeth neu’n ystyried symud ymlaen i gyflogaeth. Bydd myfyrwyr hefyd yn gweithio tuag at Mynediad Lefel 3 mewn cymhwyso rhif a chyfathrebu.

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn rhedeg am bedwar diwrnod a bydd un ohonynt yn cael ei dreulio ar leoliad allanol. Addysgir y cwrs STTEP yn ystod slotiau sydd fel arfer yn para awr (sesiynau hyd at 3 awr ar gyfer prosiectau awyr agored ymarferol). Bydd diwrnod arferol yn para 4-5 awr gyda slotiau egwyl a chinio rhwng gwersi. Nid oes asesiadau arholi gosod ond mae’r gwaith cwrs EDEXCEL yn cael ei asesu trwy gyfuniad o waith portffolio, asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol, fideo a thystiolaeth ffotograffig. Bydd dosbarthiadau fel arfer yn cynnwys staff cymorth a fydd yn gallu helpu myfyrwyr os/pan fydd angen.

Mae myfyrwyr yn cael cynnig cyfweliadau a chymorth gan Gyrfa Cymru drwy gydol y flwyddyn, a bwriedir y bydd myfyrwyr yn paratoi ac ystyried cyflogaeth yn dilyn y cwrs. Ar ôl cwblhau’r cwrs gall myfyrwyr archwilio pob posibilrwydd o waith rhan-amser pellach ar Raglen Datblygu Gwaith ATC a chael eu cyflwyno hefyd i’r cyrsiau rhan-amser neu Lefel 1 amrywiol sydd ar gael yn yr adran Sgiliau Byw’n Annibynnol.