Mae’n myfyrwyr rhyngwladol wrthi’n dathlu cynigion gan rhai o brifysgolion gorau’r DU, gyda 20 o’r 24 yn gynigion gan brifysgolion Russell Group.
Croeso i Goleg Gŵyr Abertawe
Y Coleg Safon Uwch arweiniol yng Nghymru
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o'r colegau sy'n perfformio orau yn y DU. Lleolir y Coleg yn yr ardal ddynodedig gyntaf o harddwch naturiol eithriadol. Rydym yn enwog am ein rhaglen Safon Uwch, gyda chanlyniadau a chyfraddau dilyniant rhagorol i brifysgolion gorau'r DU.
Edrychwch ar ein Prosbectws Rhyngwladol i weld pam dylech astudio Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe!
Cyfradd pasio 100% ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch Rhyngwladol
Yn 2020, roedd ein myfyrwyr U2 rhyngwladol wedi cyflawni cyfradd pasio 100%, gyda chanran anhygoel o 74% yn ennill A* neu A.
Mae dros 90% o’r myfyrwyr eleni wedi symud ymlaen i brifysgol Russell Group, gan gynnwys Rhydgrawnt.
Gweld cyrchfannau prifysgol ein myfyrwyr rhyngwladol rhwng 2016 a 2019
Anelwch yn Uwch!
Rydym yn rhedeg rhaglenni arbenigol paratoi ar gyfer y brifysgol i fyfyrwyr dawnus a thalentog. Mae gofynion mynediad a chostau penodol yn gysylltiedig â’r rhaglenni hyn.
Cysylltwch â’r swyddfa ryngwladol i gael rhagor o fanylion: international@gcs.ac.uk
Academi Saesneg
Saesneg Cyffredinol
Mae’r cwrs hwn yn cynnig mynediad ar lefelau cymhwysedd amrywiol ac mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ehangu eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu. Addysgir Saesneg defnyddiol mewn sefyllfaoedd realistig fel y gall myfyrwyr ddysgu ac ymarfer iaith ym mywyd pob dydd. Addysgir y cwrs o ddydd Llun i ddydd Gwener am 16 awr yr wythnos.
Gwneir asesiadau pan fydd myfyrwyr wedi cyrraedd y safonau gofynnol i gyflawni’r modiwlau City & Guilds mewn darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Gall myfyrwyr wneud cais am gyrsiau Safon Uwch neu Lefel Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ar ôl iddynt gyrraedd y lefel cymhwysedd briodol ar gyfer y rhaglen astudio o’u dewis.
IELTS a’r cwrs paratoi ar gyfer Safon Uwch
Bydd y cwrs hwn yn datblygu perfformiad myfyrwyr ar draws yr holl sgiliau iaith Saesneg allweddol er mwyn sicrhau’r llwyddiant mwyaf posibl mewn arholiadau IELTS. Mae ei gynnwys diddorol yn darparu digon o ymarfer mewn technegau astudio sylfaenol ar gyfer pontio i ddysgu Safon Uwch. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i dreialu pynciau o’u diddordeb ac elwa ar gyfeillion Coleg. Mae gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol cynhwysol yn ategu pynciau gwersi ac maen nhw’n codi cwr y llen ar fywyd myfyrwyr yn y DU.
Mae gan y cwrs opsiynau sy’n para tri, chwe neu naw mis, yn dibynnu ar ofynion dysgu unigol. Oriau ystafell ddosbarth rheolaidd gyda gweithgareddau allgyrsiol ychwanegol. Mae myfyrwyr yn sicr o gael mynediad i raglenni Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe pan fyddan nhw wedi cyrraedd y safon IELTS ofynnol.
Saesneg Academaidd
Mae Saesneg Academaidd yn gwrs cwricwlwm ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe a fyddai’n elwa ar gymorth ieithyddol. Mae arweinydd y cwrs yn cyd-gysylltu’n agos â staff y cwricwlwm i nodi meysydd datblygu penodol myfyrwyr. Mae’r dosbarthiadau’n cynnwys sesiynau adolygu un-i-un yn ogystal â thasgau dilyniant iaith generig. Mae ymarfer cynhwysfawr yn helpu myfyrwyr i lwyddo yn eu hastudiaethau academaidd a pharatoi ar gyfer IELTS.
Mae’r cwrs yn rhedeg unwaith yr wythnos am 2.5 awr trwy gydol y tymor a disgwylir i fyfyrwyr gwblhau gweithgareddau ac aseiniadau hunanddysgu a roddir iddyn nhw. Cynigir cymorth ychwanegol trwy system Bwcio Llyfrgellydd Coleg, lle mae cymorth un-i-un ar gael ar gyfer gwaith ymchwil pwnc a gwaith ieithyddol.
Rhaglen Sylfaen Ryngwladol
Bwriedir y rhaglen flwyddyn hon ar gyfer pobl ifanc 17-19 oed a hoffai symud ymlaen i brifysgol yn y DU. Bydd myfyrwyr yn dilyn Rhaglen Mynediad Lefel 3 sydd ar gael mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Busnes, Cyfrifiadura Cymhwysol, y Dyniaethau, y Gyfraith a Gwyddoniaeth. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant Saesneg wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni’r lefel ofynnol o Saesneg er mwyn symud ymlaen yn llwyddiannus i’r brifysgol.
Ni fydd myfyrwyr sy’n mynychu’r rhaglen hon ynghlwm wrth brifysgol benodol. Yn lle, rhoddir arweiniad ardderchog i bob myfyriwr ar yrfaoedd i’w galluogi i ddewis y brifysgol iawn sy’n gweddu i’w diddordebau penodol. Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn y DU yn derbyn myfyrwyr ein Rhaglen Sylfaen Ryngwladol, ond bydd eu derbyn yn dibynnu ar y canlyniad terfynol, lefel iaith Saesneg a chais UCAS. Yn ddiweddar, mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, i enwi ond ychydig.
I fod yn gymwys, dylai fod gan fyfyrwyr o leiaf 5.5 IELTS.
Llety
Rydym yn cynnig llety Homestay i bob un o’n myfyrwyr rhyngwladol. Mae’r llety hwn yn amgylchedd diogel a phreifat gyda theulu o Brydain.
Bydd byw mewn llety a gymeradwyir gan Goleg Gŵyr Abertawe yn rhoi profiad gwirioneddol Brydeinig i chi. Cewch gyfle i brofi diwylliant Prydain, gwella’ch sgiliau iaith Saesneg a byddwch hefyd yn gallu cael cyngor a chyfarwyddyd ar fyw yn Abertawe, Cymru a’r DU!
Mae byw mewn llety Homestay yn ddiogel iawn, oherwydd mae pob un o’n teuluoedd croesawu yn mynd trwy asesiad risg trylwyr gan y Coleg ac maen nhw’n cael eu gwirio’n swyddogol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bro Gŵyr
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cymryd ei enw o Fro Gŵyr, yr ardal ddynodedig gyntaf o harddwch naturiol eithriadol ym Mhrydain. Mae Bro Gŵyr yn gartref i rai o’r baeau a’r traethau mwyaf hardd yn y DU ac mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu a ffilmiau. Rydym yn mynd â’n myfyrwyr i Fro Gŵyr yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau awyr agored megis cerdded, dringo a syrffio.
Ble mae Abertawe?

Amserau gyrru i Abertawe
3 awr o
Llundain
2¾ awr o
Birmingham
1½ awr o
Bryste
4 awr o
Fanceinion
Gyda’i gysylltiadau â’r rhwydwaith cludiant ehangach, mae Abertawe mewn lleoliad strategol ar gyfer mynediad o’r DU, Ewrop a thu hwnt.

Ar y Ffyrdd
Mae traffordd yr M4 yn cysylltu Llundain ag Abertawe ac mae’n 3 awr o daith. Mae’r cwmni bws cenedlaethol yn gweithredu gwasanaeth uniongyrchol bob awr o Abertawe i holl feysydd awyr rhyngwladol Llundain.

Ar y Trên
Mae trenau uniongyrchol ar gael bob awr o Abertawe i Lundain ac mae’n 3 awr o daith.

Mewn Awyren
Mae’n cymryd ychydig o dan 3 awr i yrru o Faes Awyr Heathrow Llundain i Abertawe. Mae’n cymryd 1.5 awr i yrru o Faes Awyr Rhyngwladol Bryste i Abertawe. Mae’n cymryd tua awr i yrru o Faes Awyr Caerdydd i Abertawe.