Skip to main content
Graffeg glas gyda dwy lun o bobl yn astudio/adolygu. Logo gwyn Coleg Gwyr Abertawe a'r testun "10 tip ar gyfer cyfnod arholiadau di-straen - Mark Jones, Pennaeth" ar sgwâr crwn pinc.

Pennaeth y Coleg yn rhannu 10 tip adolygu ar gyfer cyfnod arholiadau di-straen

Mae cyfnod arholiadau wedi cychwyn ac mae pobl ifanc hyd a lled Abertawe yn ymgymryd ag arholiadau ac asesiadau terfynol ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon Uwch a galwedigaethol.

Yn naturiol, mae cyfnod arholiadau yn gallu peri pryder i rai myfyrwyr a’u teuluoedd.  Tra bo llawer yn dal i wella o sgileffeithiau’r pandemig, mae’n bwysig cydnabod bod straen iechyd meddwl a phryder yn normal, a gallwn ni gymryd camau i leddfu pryder.

Isod, mae Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe , yn rhannu canllawiau defnyddiol i bobl sydd ar fin sefyll arholiadau, eu teuluoedd a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.

Mwy o tips

Gwnewch cais nawr!

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae ein hymrwymiad i ddysgwyr yn mynd y tu hwnt i ddarparu addysg o’r radd flaenaf.

Gwyddom fod helpu pobl ifanc i gyflawni eu nodau yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddarparu cymorth lles ac iechyd meddwl wedi’i deilwra trwy gydol eu hastudiaethau, gan fod ar gael iddynt pryd bynnag y byddant yn teimlo bod ein hangen arnynt. 

Cofia mai dy les dy hun yw dy brif flaenoriaeth

  • Ysgrifenna dy bryderon: Mae ysgrifennu’r pethau rwyt ti’n poeni amdanyn nhw yn gallu lleddfu pryder. Mae gwaredu’r pethau nad wyt ti’n gallu eu rheoli yn rhan o’r broses mewn perthynas â chael meddwl clir ar gyfer adolygu.
  • Trefna seibiau a chofia gwrdd lan â dy ffrindiau: Gall euogrwydd fod yn deimlad cyffredin ymysg myfyrwyr yn ystod cyfnodau arholiadau/asesiadau, ond mae’n bwysig i drefnu seibiau a gweithgareddau a chwrdd â ffrindiau. Gall feddwl tawel dy helpu i gofio mwy o wybodaeth.
  • Digon o fwyd, cwsg ac awyr iach: Does dim angen esboniad pellach. Byddi di a dy feddwl yn ddiolchgar yn y pendraw.

Cael y gorau o adolygu

  • Paratoi ar gyfer adolygu: Weithiau, bydd arholiadau ac asesiadau yn canolbwyntio ar agweddau penodol ar y cyrsiau. Cer i i gael sgwrs â dy diwtor i weld a fydd hyn yn berthnasol i ti ac, os felly, blaenoriaetha dy amser i adolygu meysydd a fydd yn ymddangos yn yr arholiadau a’r asesiadau.
  • Gosod nodau realistig: Crea galendr yn nodi dyddiadau dy arholiadau. Yna, gweithia am yn ôl a noda pa ddyddiadau rwyt ti am astudio pob pwnc. Bydd hyn yn dy helpu i weld llinell amser a gweithio tuag at gyflawni dy nodau.
  • Dod o hyd i fan adolygu effeithiol: Ffeindia le i adolygu a gwna’r lle hwnnw yn ddeniadol fel y byddi di’n awyddus i adolygu yno. Er enghraifft, galli di roi dyfyniad ysbrydoledig ar y wal neu wrando ar gerddoriaeth ysgogol.
  • Cwblha cyn-bapurau: Rydyn ni’n cynnig mynediad eang at gyn-bapurau i bob un o’n myfyrwyr i’w helpu i baratoi ar gyfer eu harholiadau go iawn.  Unwaith rwyt ti’n teimlo dy fod wedi gwneud digon o adolygu, cwblha gyn-bapurau i brofi dy hun ar y pynciau rwyt ti wedi eu hastudio.

A peidia anghofio...:

  • Creda ynot ti dy hun: Darllena dy nodiadau ddwywaith, deirgwaith, hyd yn oed bedair gwaith, ond cofia gredu ynot ti dy hun a phaid â gorfeddwl.
  • Dydy arholiadau na graddau ddim yn dy ddiffinio di fel person: Mae’n bwysig i ti atgoffa dy hun nad yw arholiadau na graddau yn dy ddiffinio di fel unigolyn. Pa bynnag ganlyniadau sydd gennyt, byddi di ar y llwybr cywir ar gyfer dy ddyfodol a gall y Coleg dy gefnogi di bob cam o’r ffordd.
  • Aros yn bositif: Bydda’n falch o bwy wyt ti a’r hyn rwyt ti wedi ei astudio yn barod. Rwyt ti’n gwneud yn wych, dal ati.

#Byddwch yn barod am dymor arholiadau ac asesiadau

Mwy o tips

Gwnewch cais nawr!