Skip to main content
Adeiladu dyfodol gwyrddach  i’n cymunedau campws

Adeiladu dyfodol gwyrddach i’n cymunedau campws

Rydym bob amser yn meddwl am y dyfodol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, yn enwedig wrth i’r tymor newydd ddechrau.

Fel myfyrwyr, bydd pob cam a gymerwch gyda ni yn dod â chi yn nes at yr yrfa o’ch dewis, neu gam nesaf eich addysg. Yn yr un modd, mae’ch tiwtoriaid yn canolbwyntio ar y ffordd orau o sicrhau eich bod yn cyrraedd eich nodau. Ond mae canolbwyntio ar y cyd ar y dyfodol hefyd yn golygu bod rhaid i ni, staff a myfyrwyr fel ei gilydd, ymrwymo i weithredu’n gynaliadwy i ddiogelu ein hamgylchedd a’r byd y byddwn yn ei drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.   

Wrth i chi ystyried maint ein Coleg, sy’n gwasanaethu miloedd o fyfyrwyr ac yn cyflogi cannoedd o staff ar draws chwe champws, nid ar chwarae bach y mae gweithredu gyda chynaliadwyedd mewn golwg. Fodd bynnag, mae’n hanfodol ein bod yn atebol i wneud popeth y gallwn i weithredu’n gyfrifol, wrth ymchwilio’n barhaus i ffyrdd newydd o wella.

Mae rhai o’r buddsoddiadau amryfal a wneir ar draws ein campysau i wella effeithlonrwydd ynni ac adnoddau ein gweithgareddau pob dydd mor ddi-dor, gellid maddau i rywun am beidio â sylwi arnynt.

Mae goleuadau LED sy’n arbed ynni wedi cael eu hôl-osod ar bob un o’n campysau, mae biniau ailgylchu ar gael ym mhob man yn ein hadeiladau, rydym yn cynaeafu dŵr glaw i ddyfrhau ein tiroedd, a Champws Gorseinon yw’r campws cyntaf i gael paneli solar. Mae’r buddsoddiadau hyn a buddsoddiadau tebyg eraill wedi rhoi modd i ni sicrhau achrediad Safon Amgylchedd y Ddraig Werdd Lefel 5, sy’n golygu ein bod wedi cael cydnabyddiaeth am ein gwelliannau amgylcheddol ymroddedig parhaus ar y campysau – ond megis dechrau ydyn ni.

Rhai o’r prosiectau cynaliadwyedd ac amgylcheddol mwyaf gwerthfawr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yw’r rhai sy’n gweld myfyrwyr a staff yn cydweithio i wneud newidiadau go iawn a fydd yn fuddiol i’n cymuned. Yn gynharch eleni, fe wnaeth ein myfyrwyr tirlunio greu gardd goffa arbennig ar Gampws Tycoch. Diolch i gymorth Cadwch Gymru’n Daclus a Llywodraeth Cymru, rydym hefyd yn gweld myfyrwyr yn gwneud cynnydd gyda phrosiect hirdymor mwy o faint i greu gardd synhwyraidd gwell iechyd, a fydd yn cynnwys rhywogaethau brodorol a phlanhigion sydd wedi’u dewis yn benodol i annog peillwyr a chynorthwyo bioamrywiaeth.

Yng Ngorseinon, mae myfyrwyr a staff wedi plannu 350 o lasbrennau a ddarparwyd yn rhad ac am ddim gan Goed Cadw, ar draws dwy ardal o’r campws. Bydd mannau oedd gynt wedi’u gorchuddio â glaswellt a mieri bellach yn gartref i 11 rhywogaeth o goed gan gynnwys derw, bedw arian, a chriafol. Wrth iddynt aeddfedu, bydd y coed hyn yn darparu bwyd a lloches i gannoedd o rywogaethau o fywyd gwyllt gan helpu i gynyddu bioamrywiaeth, yn ogystal â gwella ansawdd aer ar draws y campws, creu mannau gwyrdd gwerthfawr a chwarae rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Bydd ein gwaith i gynyddu bioamrywiaeth ein campysau yn gweld dros 3,000 o rywogaethau o flodau gwyllt brodorol yn cael eu plannu yng Ngorseinon a Thycoch eleni. Mae hynny yn golygu y bydd dros 18,000 o fylbiau’n cael eu plannu, gyda phob math yn cael ei ddewis yn benodol gan ystyried cyflyrau lleol ac anghenion amgylcheddol. Yn ogystal, mae blychau adar, gwestai chwilod, cartrefi i ddraenogod, llyffantod a brogaod bellach yn nodweddion parhaol ar y ddau gampws.

Wrth gwrs, dim ond un rhan o’n hymdrechion cynaliadwyedd yw creu adnoddau newydd sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd. Mae rheoli a, lle bo’n bosibl, lleihau gwastraff yn gyfrifol yn allweddol i’n hymdrechion i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd a’n hôl-troed carbon.

Mae cydbwyso’r angen i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael mynediad i’r dechnoleg ddiweddaraf, a chynnal ein hymrwymiad i leihau gwastraff ar yr un pryd, yn her a hanner. Fel rhan o’n haddewid i leihau faint o wastraff rydym yn ei anfon i’r safle tirlenwi, mae tîm TG Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’n cyflenwyr technoleg i sicrhau bod 100% o’n hoffer TG dros ben ac wedi’u torri yn cael eu hailddefnyddio a’u hailgylchu. I roi hyn yn ei gyd-destun, dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’r tîm wedi trefnu casgliadau ar gyfer bron 12 tunnell o offer. Mae hynny’n gyfwerth â llond bws deulawr o offer. O ganlyniad, mae 85% o’r dechnoleg honno wedi cael eu hailwampio a’i hailddefnyddio, gyda’r 15% sy’n weddill yn cael eu torri i lawr ar gyfer ailgylchu. Ac, yn y dyfodol agos, bydd staff a myfyrwyr yn gallu ailgylchu llyfrau ac offer TG personol wedi’u torri neu nad oes eu hangen mwyach drwy gyflenwyr y Coleg, yn rhad ac am ddim.

Bydd mentrau amgylcheddol pellach yn y Coleg yn ein gweld yn symud tuag at ein targed o fod yn sero net erbyn 2030. Bydd y dilyniant hwnnw yn golygu y byddwn yn rhoi’r gorau i werthu poteli dŵr plastig ar draws yr holl gampysau a byddwn yn cyflwyno cynlluniau rhannu cludiant ar draws holl safleoedd y Coleg. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cynaliadwyedd ac amgylcheddol gan gynnwys gweithdai ailgylchu, atgyweirio ac ailddefnyddio, glanhau traethau, wythnosau dim gwastraff, sgyrsiau ffasiwn cynaliadwy, a chyfleoedd i ymweld ag ystod o brosiectau cynaliadwyedd.

Fodd bynnag, pwrpas y blog hwn yw dathlu cyd-lwyddiannau ein staff a’n myfyrwyr, ond mae hefyd yn rhoi blas i chi ar sut y gallwch chi fod yn rhan o hyn hefyd wrth i chi ymgartrefu ym mywyd y Coleg. Rydym yn ystyried ein gwaith hyd yn hyn a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel man dechrau, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n cenhedlaeth nesaf o fyfyrwyr i warchod ein hamgylchedd ymhellach ac adeiladu dyfodol gwell i’n cymuned.