Skip to main content
A group of adult learners around a table, writing and laughing

Diweddaru’ch sgiliau, gwella’ch cyflogadwyedd neu ddarganfod hobi newydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion gyda Choleg Gŵyr Abertawe

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe amrywiaeth o gyrsiau a sesiynau blasu am ddim i oedolion sy’n ddysgwyr.

Mae’r Coleg bob amser wedi bod ag enw da iawn am addysg bellach, ond mae hefyd yn cynnig amrywiaeth mawr o gyrsiau hamdden a datblygiad proffesiynol gyda darpariaeth hyblyg i oedolion sy’n ddysgwyr. P’un ai ydych yn gobeithio rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd, newid cyfeiriad eich gyrfa, diweddaru’ch sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, pa bryd gwell i ymgeisio nag yn ystod Wythnos Addysg Oedolion?

Wythnos Addysg Oedolion

Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad dysgu mwyaf yng Nghymru, wedi’i gydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar y cyd â Llywodraeth Cymru. 

Ei nod yw ysbrydoli oedolion i ddarganfod angerdd am ddysgu a datblygu sgiliau a dangos iddynt nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu!

Cyrsiau i weddu i bawb

Gall fod nifer o ofynion ar amser oedolion sy’n ddysgwyr. Am y rheswm hwn, mae’r Coleg yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyblyg a byr, yn ogystal â chyrsiau sy’n rhedeg ar amserau gwahanol yn ystod y dydd a’r nos. 

O lefel ragarweiniol i lefel prifysgol, mewn amrywiaeth o bynciau o goginio i gwnsela, gwaith brics i grochenwaith a hyfforddiant ffitrwydd i wneud ffilmiau – bydd gan Goleg Gŵyr Abertawe gwrs sy’n addas i chi mae’n siŵr. 

Ac nid dyna’r cwbl! Ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion, mae’r Coleg yn rhedeg 31 sesiwn 45 munud AM DDIM ar amrywiaeth o bynciau fel Cymraeg sylfaenol, codio, celf ar gyfer lles, gwasanaeth cwsmeriaid, a pharatoi CV.

Byth yn rhy hwyr

A hithau’n gwireddu’r hyn y mae dysgu gydol oes yn ei gynrychioli, enillodd Phyllis Gregory – dysgwr Llythrennedd Digidol 94 blwydd oed yn y Coleg – wobr Heneiddio’n Dda yng Ngwobrau Addysg Oedolion y llynedd. 

Mae Phyllis bob amser wedi bod yn hoff iawn o ysgrifennu a barddoniaeth, gan ennill cystadlaethau niferus drwy gydol ei bywyd, ond canfu na fedrai hi ysgrifennu â llaw mwyach ar ôl datblygu syndrom llaw grynedig. 

Yn benderfynol o barhau â’r hyn roedd hi’n ei garu, fe welodd hyn fel cyfle i ddysgu sgíl newydd ac felly dyma hi yn cofrestru ar gwrs Llythrennedd Digidol fel y gallai ddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur. 

“Mae pobl yn meddwl unwaith eich bod chi’n cael eich tocyn bws mae popeth drosodd i chi. “Ond dwi’n berson sydd ddim yn gallu eistedd yn llonydd, dwi’n hoffi gwneud pethau. 

“Roedd ofn arna i pan ymunes i â’r cwrs, ond roedd y tiwtoriaid yn wych ac roedden nhw wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol iawn. Ces i bob cymorth posibl ganddyn nhw. Roedd yn brofiad dymunol iawn.”

Newid gyrfa

Roedd Gareth bob amser wedi mwynhau gwyddoniaeth yn yr ysgol ond ar y pryd nid oedd wedi ystyried astudio’r pwnc ar lefel uwch. 

Yn 2019, cofrestrodd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i astudio’r cwrs Mynediad i Wyddoniaeth. Erbyn hynny, roedd yn meddwl am astudio’r pwnc yn y brifysgol ac roedd angen y Diploma ac ychydig o raddau TGAU arno er mwyn bodloni’r gofynion mynediad. 

Aeth Gareth ymlaen i gyflawni graddau Rhagoriaeth ym mhob un o’i unedau ar y cwrs Mynediad, gan lwyddo i gwblhau ei gymwysterau TGAU Mathemateg a Saesneg yn y Coleg hefyd. 

Yna penderfynodd astudio BSc Maetheg Ddynol a Deieteg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. 

“Roedd y cwrs Mynediad yn fuddiol iawn, ac roedd wedi fy mharatoi ar gyfer y brifysgol,” meddai. “Roedd y llwyth gwaith yn heriol weithiau, ond nawr dwi’n gallu defnyddio popeth a ddysges i yn y Coleg yn fy ngwaith prifysgol. 

“Roedd fy mhrofiad yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn anhygoel. Roedd pawb mor barod i helpu – o’r staff gweinyddol a’r staff llyfrgell yn yr adran i’m hathrawon amyneddgar iawn. 

“Dwi ddim yn gallu argymell y cwrs Mynediad ddigon, yn enwedig os ydych chi’n fyfyriwr hŷn. Dyw hi byth yn rhy hwyr a does dim byd gyda chi i’w golli.”

Adnoddau, cyfarwyddyd a chymorth

Mae gan oedolion sy’n ddysgwyr yn y Coleg fynediad llawn at amrywiaeth o gymorth yn ystod eu hastudiaethau gan gynnwys cymorth dysgu a chyngor ar gyrsiau, gyrfaoedd, materion personol a materion ariannol. 

Yn ogystal, mae gan ddysgwyr fynediad llawn at y llyfrgelloedd yn y Coleg, sy’n cynnig mannau dysgu hyblyg ac amrywiaeth eang o adnoddau fel cyfrifiaduron personol, cyfleusterau argraffu a chopïo, Wi-Fi am ddim a staff gwybodus a chefnogol. 

Os ydych chi ar groesffordd yn eich gyrfa, bydd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol – rhaglen gyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe – yn gallu eich helpu i ennill, cadw a symud ymlaen yn eich cyflogaeth. 

Poeni am y gost? Yn ogystal â’r sesiynau AM DDIM a gynigir yn ystod Wythnos Addysg Oedolion a rhai cyrsiau rhan-amser rhad, mae’r Coleg hefyd yn darparu cyrsiau wedi’u hariannu’n llawn trwy Gyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru (CDP).