Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe yn cefnogi Wythnos Gofalwyr

Coleg Gŵyr Abertawe yn cefnogi Wythnos Gofalwyr

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol i ddathlu a chydnabod cyfraniad hanfodol gofalwyr di-dâl y DU – sy’n cefnogi aelodau o’r teulu a ffrindiau hŷn, ag anabledd, salwch meddwl neu gorfforol neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth iddynt dyfu’n hŷn.

Yn ystod Wythnos Gofalwyr 2021, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gwahodd gwasanaethau iechyd a gofal, ysgolion, cyflogwyr a busnesau ar draws y gymuned i gydnabod cyfraniad hanfodol gofalwyr di-dâl.

Mae gan y Coleg ddau Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer Oedolion Ifanc sy’n Gofalu (YAC). Mae Tamsyn Oates a Ryan McCarley yn swyddogion diogelu hynod hyfforddedig sy’n gallu cefnogi, cyfeirio, ymgysylltu ac eirioli ar ran YAC. Yn aml, mae myfyrwyr yn ansicr ynghylch a yw’r hyn maen nhw’n ei wneud yn gymwys fel rôl ‘gofalu’, ac mae Tamsyn a Ryan yma i’w helpu i gael hyd i’r cymorth perthnasol.

Yn ogystal, mae’r Coleg yn falch iawn o fod wedi cyflawni achrediad Safon Ansawdd Cymorth Gofalwyr gan y Ffederasiwn Gofalwyr sy’n cydnabod y lefel uchel o gymorth mae’n ei chynnig i Oedolion Ifanc sy’n Gofalu. Mae’n cynnwys helpu i gael gwared ar rai o’r rhwystrau y mae gofalwyr yn eu hwynebu, datblygu polisïau a gweithdrefnau priodol a gwella mynediad at gymorth. 

Mae’r Coleg hefyd yn un o’r cyntaf yng Nghymru i ddatblygu ei bolisi ei hun ar Oedolion Ifanc sy’n Gofalu.

Yn siarad am yr achrediad, dywedodd y Swyddog Cymorth i Fyfyrwyr, Ryan McCarley: “Mae’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu yn cynnwys bod ‘na i wrando ar fyfyrwyr, neu eu helpu i ddatrys problemau sy’n gallu codi o ganlyniad i’w cyfrifoldebau gofalu. Pa bynnag gymorth sydd ei angen arnyn nhw, byddwn ni’n gwneud ein gorau i helpu.” 

Ar gyfer Wythnos Gofalwyr 2021 mae’r elusen Carers UK yn ymuno ag Age UK, Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Cymdeithas Clefydau Niwron Motor, Oxfam GB a Rethink Mental Illness i helpu i godi ymwybyddiaeth o ofalu ledled y wlad.

Mae’r chwe elusen sy’n llywio Wythnos Gofalwyr 2021 yn galw ar unigolion, gwasanaethau a sefydliadau i wneud eu rhan i Wneud Gofalu yn Weladwy a’i Werthfawrogi – gan gydnabod y cyfraniad a wneir gan ofalwyr a’u helpu i gael y cymorth ymarferol, ariannol ac emosiynol sydd eu hangen arnynt i ofalu am anwylyn.

Ar ran elusennau Wythnos Gofalwyr, dywedodd Helen Walker, Prif Weithredwr Carers UK:

“Drwy gydol pandemig COVID-19 mae gofalwyr di-dâl wedi chwarae rôl hanfodol yn gofalu am berthnasau a ffrindiau hŷn, anabl a sâl iawn, ac maen nhw’n gwneud hynny am y rhan fwyaf o’r flwyddyn ar eu pen eu hunain y tu ôl i ddrysau caeedig. Maen nhw’n gofalu heb gael y cymorth y bydden nhw’n ddibynnol arno er mwyn cael seibiant.

“Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae’n hanfodol ein bod ni’n cydnabod y cyfraniad enfawr y mae gofalwyr di-dâl yn parhau i’w wneud o ddydd i ddydd. Dwi’n falch iawn bod llawer o unigolion a sefydliadau yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhithwir, yn helpu gofalwyr i gysylltu ag eraill ac yn manteisio ar gyngor a gwybodaeth yn lleol.

“Gall gofalu am rywun fod yn brofiad hynod werth chweil, ond weithiau mae anawsterau, gan gynnwys cael y cymorth cywir. Yn ystod Wythnos Gofalwyr, gobeithio y bydd pob rhan o’r gymuned - teulu a ffrindiau, cyflogwyr, busnesau, ysgolion, gwasanaethau iechyd a gofal - yn gwneud eu rhan i wneud gofalu yn weladwy a dangos ei fod yn cael ei werthfawrogi.”

Bydd Wythnos Gofalwyr yn digwydd 7-13 Mehefin 2021 ledled y DU. Fe’i sefydlwyd gan Carers UK 27 mlynedd yn ôl, ac mae’n ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol sy’n dathlu ac yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan y 6.5 miliwn o ofalwyr yn y DU.

Mae gofalwr yn rhywun sy’n darparu gofal a chymorth di-dâl i aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch meddwl neu gorfforol, problem camddefnyddio sylweddau, neu rywun sydd angen cymorth ychwanegol wrth dyfu’n hŷn.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae’r cymorth i Oedolion Ifanc sy’n Gofalu yn gyfrinachol ac yn cael ei ddarparu gan ein Swyddogion Cymorth i Fyfyrwyr, ar y cyd ag unrhyw asiantaethau allanol perthnasol. Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind a hoffech wybod rhagor ynghylch sut y gallwn ni helpu, ewch i’r adran YAC ar ein gwefan neu e-bostiwch Tamsyn.Oates@gcs.ac.uk neu Ryan.McCarley@gcs.ac.uk