Dilyniant parhaus i Charlotte


Diweddarwyd 12/05/2021

Yn ddiweddar, fe wnaethon ni ddal i fyny â Charlotte, cyn-fyfyriwr Cyfiawnder Troseddol a raddiodd o’r Coleg gyda gradd sylfaen ym mis Gorffennaf 2020.

Mae Charlotte yn angerddol am droseddeg, felly fe benderfynodd astudio cwrs yng Ngholeg Gŵyr Abertawe oherwydd y cymorth ychwanegol y mae’r Coleg yn ei ddarparu.

“Penderfynais astudio cwrs yng Ngholeg Gŵyr Abertawe oherwydd nad oeddwn i’n barod i fynd i’r brifysgol,” dywedodd. “Roeddwn i’n nabod un o ddarlithwyr y cwrs, felly roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n derbyn y cymorth priodol. Fe wnaeth y cwrs fy arfogi â’r sgiliau angenrheidiol sydd angen arnaf i ddatblygu gyrfa mewn troseddeg.”

Un o hoff bethau Charlotte am astudio yn y Coleg yw’r bobl y gwnaeth hi eu cwrdd â nhw, gan gynnwys ei darlithwyr, a wnaeth iddi deimlo’n gartrefol iawn.

“Oni bai am y Coleg, ni fyddwn i erioed wedi cwrdd â’r bobl hyn,” dywedodd. “Dw i wedi cael cyfle i gwrdd â ffrindiau am oes. Roeddwn i hefyd yn hoff o’r ffordd y cyflwynodd y darlithwyr y cwrs; roedden nhw’n broffesiynol ac yn hamddenol, roeddwn i’n gyfforddus iawn ac roeddwn i’n gwybod y gallwn i wedi gofyn unrhyw beth iddyn nhw, unrhyw bryd.”

Ers gadael y Coleg, mae Charlotte wedi bod yn mynd o nerth i nerth.

“Byddwn i’n sicr yn argymell y cwrs hwn i bobl eraill,” dywedodd Charlotte. “Mae’r cwrs hwn wedi fy annog i gwblhau gradd Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru. Yn ogystal, rydw i newydd dderbyn cyfweliad swydd ar gyfer rôl Ymchwilydd Mewnwelediad Unedau gyda Heddlu De Cymru.”

Gall unrhyw un sy’n dymuno dilyn olion traed Charlotte wneud cais i astudio Gradd Sylfaen mewn Cyfiawnder troseddol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Mae’r cwrs yn darparu llwybr dilyniant clir i ddysgwyr Lefel 3 sydd wedi astudio Troseddeg a chyrsiau cysylltiedig. Dyma raglen wych i ddysgwyr sydd eisiau astudio mewn amgylchedd personol a chefnogol.

https://www.gcs.ac.uk/cy/he-course/gradd-sylfaen-mewn-cyfiawnder-troseddol

Tags: