Diweddariad covid: newidiadau i fesurau o ddydd Llun 9 Mai


Diweddarwyd 06/05/2022

Yn unol â’r cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru yngylch newidiadau i gyfyngiadau covid ar gyfer lleoliadau addysgol, bydd y Coleg nawr yn dechrau symud tuag at sefyllfa lle y byddwn ni’n parhau i annog y cyfyngiadau, er nad oes gofyniad ar gyfer y rhan fwyaf ohonyn nhw.

Ar hyn o bryd, mae nifer yr achosion covid cadarnhaol yn parhau i fod yn gymharol uchel, ac felly mater i unigolion nawr fydd penderfynu a ddylen nhw barhau i ddilyn y mesurau.

Felly beth mae hyn yn ei olygu i’r Coleg?

O ddydd Llun 9 Mai:

  • Hylendid dwylo – byddwn ni’n parhau i annog hyn a bydd gorsafoedd diheintio dwylo yn dal i fod ar gael ar draws y campysau
  • Gorchuddion wyneb – dydyn nhw ddim yn orfodol mwyach ond byddwn ni’n parhau i’ch annog i’w gwisgo
  • Gwneud lle a chadw pellter corfforol – byddwn ni’n parhau i’ch cynghori i wneud hyn
  • Awyru da – mae hyn yn berthnasol o hyd
  • Bydd defnyddio sgriniau yn parhau i fod ar waith fel mesur ataliol pan fydd yn briodol.

Byddwn ni’n parhau i gynnal cysylltiadau gwaith agos gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn gweithredu o fewn y mesurau mwyaf priodol a chymesur. Byddwn ni hefyd yn parhau i gasglu data ar ganlyniadau profion covid cadarnhaol a byddwn ni’n parhau i annog staff a myfyrwyr i gadw cyflenwad o ddyfeisiau llif unffordd y gallan nhw eu defnyddio os bydd angen.

O ran arholiadau/asesiadau a sut y gallai hyn effeithio ar unrhyw un sydd â covid, ewch i’n tudalen we bwrpasol yma i gael rhagor o fanylion (gweler yr adran Gwybodaeth am Asesiadau Haf 2022).

Tags: