Skip to main content
Diweddariad pwysig ar ganllawiau hunanynysu - 29 Hydref

Diweddariad pwysig ar ganllawiau hunanynysu - 29 Hydref

Ar ddydd Gwener 29 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’r canllawiau hunanynysu o ganlyniad i lefel uchel barhaus o achosion Covid-19 positif yng Nghymru.

Mae’r canllawiau newydd yn berthnasol i bawb, hyd yn oed os ydych wedi’ch brechu’n llawn neu o dan 18 oed.

Os ydych chi neu rywun sydd yn byw gyda chi wedi profi’n bositif am Covid-19 neu wedi dangos unrhyw symptomau, bydd angen i chi hunanynysu a bwcio prawf PCR Covid-19.

Dim ond os ydych chi’n cael prawf PCR Covid-19 negatif y byddwch yn cael dychwelyd i’r Coleg (ac ailddechrau unrhyw weithgareddau dyddiol eraill y tu allan i’ch cartref).