Skip to main content
Learners sitting at table learning midwifery with dolls

Diwrnod Blasu Nyrsio. Bydwreigaeth a Gofal Cymdeithasol

Trefnwyd Diwrnod Blasu Nyrsio, Bydwreigaeth a Gofal Cymdeithasol ar y cyd gyda Academi Hywel TEifi, Prifysgol Abertawe i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb dilyn gyrfa yn y meysydd hynny.

Trefnwyd y diwrnod gan Anna Davies, Rheolwr y Gyrmaeg “Y nod oedd annog myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i astudio eu cwrs Nyrsio, Bydwreigaeth neu Gofal Cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac ymgeisio am ysgoloriaeth cymhelliant sydd ynghlwm a’r cyrsiau hynny.”

Cydweithiwyd gydag ysgolion Cymraeg a cholegau rhanbarth y de-orllewin er mwyn sicrhau bod y neges yn cyrraedd cymaint o bobl a phosib a bod bob myfyriwr potensial yn cael cyfle i fynychu’r diwrnod.

Cafwyd darlithoedd byr gan ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu’r myfyrwyr yn ffodus iawn hefyd i gael digon o gyngor am eu ffurflen gais, y broses gyfweld ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meddai Indeg Owen, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, “Cafwyd sesiynau ymarferol yn yr ystafelloedd clinigol yn y prynhawn. Amrywiwyd o frwsio dannedd claf, geni babi, gosod gwely, a chymryd pwysau gwaed. Bu’r trafodaeth am yr hyn sy’n gwneud gofalwr cymdeithasol dda hefyd. Ffocysodd feddyliau’r myfyrwyr ar yr hyn fydd angen iddynt fedru dangos ar eu ffurflen gais ac mewn cyfweliad.”

Yn dilyn llwyddiant y diwrnod y gobaith yw tracio nifer y myfyrwyr sydd nawr ym mynd ymlaen i astudio ar y cyrsiau hyn, yn Gymraeg, ac yn derbyn ysgoloriaeth am wneud hynny.